Ymchwiliad i 'anhrefn treisgar' yng Nghasnewydd
Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i adroddiadau o anhrefn treisgar yng Nghasnewydd ddydd Sadwrn, ac yn apelio am wybodaeth.
Yn ôl y llu, daeth adroddiadau am tua 18:15 fod criw o ddynion wedi bod yn ymladd yn ardal Oliphant Circle.
Aeth swyddogion yno ac archwilio'r ardal.
Doedd neb yno erbyn hynny a dim adroddiadau fod unrhyw un wedi ei anafu, yn ôl yr heddlu.
Ond cafodd gwn aer ei ddarganfod gerllaw.
Mae'r llu hefyd wedi dod o hyd i dri char sydd o ddiddordeb iddyn nhw.
Wrth i'w hymchwiliad barhau, maen nhw'n apelio am wybodaeth gan ofyn i bobl gysylltu â nhw drwy ddyfynnu'r rhif 2600111121.
Dywedodd y Ditectif Brifarolygydd Matthew Edwards: "Rydym yn deall fod adroddiadau o'r natur hwn yn achosi pryder yn ein cymunedau
"Tra ein bod yn cadw meddwl agored ar hyn o bryd, 'dyw hi ddim yn ymddangos fod y digwyddiad hwn yn gysylltiedig â'r hyn ddigwyddodd ger Graham Bell Close y diwrnod blaenorol."
Bryd hynny cafodd tri o blant yn eu harddegau eu hanafu mewn digwyddiad yn ardal Malpas yn y dref.
Cafodd Heddlu Gwent eu galw wedi adroddiadau fod ymosodiad mewn coetir ger Graham Bell Close, toc cyn 19:00 nos Wener.
Yn ôl y llu, aeth tri dyn at y plant, sef merch 14 oed a dau fachgen 14 a 15 oed, a'r gred yw bod un o'r dynion yn cario gwn aer.
Yn ôl adroddiadau, cafodd y tri phlentyn eu taro gan beled, ac mae honiadau i'r bachgen 14 oed ddioddef ymosodiad corfforol.
Mae'r llu yn apelio am wybodaeth am y digwyddiad hwnnw hefyd.
