Côr Bechgyn Glantaf yn serennu ar Britain's Got Talent

Lloyd Macey

Llwyddodd Côr Bechgyn Glantaf o Gaerdydd a'u harweinydd Lloyd Macey i blesio'r pedwar beirniad ar raglen Britain's Got Talent a gafodd ei darlledu nos Sadwrn. 

Daeth Lloyd ac un o'r beirniaid Simon Cowell wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ers wyth mlynedd wedi llwyddiant Lloyd ar yr X Factor. 

A chafodd y cantorion ifanc o'r brifddinas dipyn o syndod yn gynharach yn y diwrnod cyn perfformio eu cân Never Enough o'r ffilm The Greatest Showman.. 

Roedd y criw o dan yr argaff eu bod yn gwylio delw o Simon Cowell yn cael ei ddadorchuddio, cyn iddi ddod yn amlwg mai'r Simon Cowell go iawn oedd o'u blaenau.

Wrth i'r criw a'u harweinydd gamu i'r llwyfan, eglurodd Simon Cowell fod Lloyd Macey ar raglen yr X Factor tua wyth mlynedd yn ôl. 

"Rhoddodd hynny gymaint o hyder i fi," meddai Lloyd.

" A dyna pham dwi i wedi dod â'r bechgyn yma ar gyfer Britain's Got Talent, 'dw i eisie iddyn nhw gredu yn eu hunain, i fod ar y llwyfan cenedlaethol hwn yn cynrychioli Ysgol Glantaf - mae'n anhygoel!"

Pan ofynnodd Simon Cowell iddo be fyddai'n gwneud gyda'r arian pe bai'n ennil, dywedodd yn hwyliog bod pennaeth yr ysgol yn y gynulleidfa, ac y byddai'n gorfod cael gair gydag e.

Wedi i'r côr o 70 o fechgyn ganu 'Never Enough' cododd y pedwar beirniad ar eu traed yng nghanol cymeradwyaeth enfawr gan y gynulleidfa. 

Balchder

Dywedodd Amanda Holden y byddai Cymru yn falch iawn ohonyn nhw, ac na allai aros i weld be ddaw nesaf. 

Cafodd Lloyd Macey ganmoliaeth gan Alesha Dixon gan ddweud fod pob côr da angen arweinydd cryf. 

"Roeddet ti'n wych. Fe wnes i fwynhau dy wylio di gymaint â'r côr," meddai wrtho.

Nododd  Simon Cowell ei fod wedi teimlo yn go emosiynol.

"Dyma beth yw bod mewn côr -cael hwyl, dewis da o gân, arweinydd gwych," meddai. 

Ac wedi canmoliaeth gan y pedwar beirniad, cyhoeddodd Simon Cowell fod Côr Bechgyn Glantaf yn dychwelyd i Gymru gyda "phedwar ie anferthol."   

Roedd Lloyd Macey wedi cyhoeddi ar ei gyfryngau cymdeithasol yn gynharach ddydd Sadwrn fod y côr ar y rhaglen. 

"Heno amdani! Cyffrous dros ben," meddai.  

Fore Sul, dywedodd ei fod yn falch iawn o'r bechgyn, gan ddiolch i bawb am eu sylwadau hyfryd.   

Ym mis Mawrth, roedd 10 ffermwr o Gymru yn rhan o gôr buddugol ar y gyfres.  

Fe gafodd yr Hawkstone Farmers, sydd yn gôr o 32 o ffermwyr, y Botwm Aur (Golden Buzzer) gan un o'r beirniaid, Amanda Holden.

Mae hyn yn golygu eu bod yn mynd yn syth drwyddo i'r rowndiau cynderfynol yn y gystadleuaeth.

Yn eu plith mae'r ffermwr a'r tenor adnabyddus Aled Wyn Davies o Faldwyn.

    

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.