Yr Wyddgrug: Dyn yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn ymosodiad

Wyddgrug

Mae dyn wedi cael ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn digwyddiad yn yr Wyddgrug yn oriau mân y bore.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Stryd Newydd yn y dref yn dilyn adroddiadau fod dyn wedi dioddef ymosodiad.

Mae cordon yr heddlu wedi ei osod o amgylch yr ardal tra bod ymchwiliadau'n parhau ac mae disgwyl iddo fod yno am beth amser.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Claire Roberts: “Rwy'n apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad neu sydd ag unrhyw wybodaeth am yr hyn a ddigwyddodd i gysylltu â ni ar frys.

“Rwyf hefyd yn apelio ar unrhyw un a allai fod â lluniau o'r ardal tua hanner nos i gysylltu â ni."

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo ymholiadau'r heddlu gysylltu gyda Heddlu'r Gogledd ar eu gwefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r cyfeirnod O029263.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.