Dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi ymosodiad honedig yng Nglyn Ebwy

Tafarn y Picture House

Mae dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl i ddyn arall 37 oed farw wedi digwyddiad tu allan i dafarn yng Nglyn Ebwy.

Yn ôl Heddlu Gwent roedd y dyn o Dredegar wedi bod mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty cyn iddo farw.

Cafodd swyddogion eu galw i ymosodiad honedig tu allan i dafarn The Picture House ar Stryd Bethcar yng Nglyn Ebwy ar ôl 23.30 nos Wener.

Cafodd dyn 30 oed o Gaerdydd ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ac mae'n parhau yn y ddalfa.

Mae'r llu yn dweud bod yr ymchwiliad yn parhau ac yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu trwy ffonio 101 gan roi'r cyfeirnod 2600055384.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.