Dedfrydu athro gyrru o Sir Gâr oedd bedair gwaith dros y terfyn alcohol

Llys Ynadon Llanelli

Mae athro gyrru o Sir Gâr wedi derbyn dedfryd o garchar am wyth wythnos wedi ei ohirio am 18 mis am yfed a gyrru. 

Cafodd Timothy Howells, 54 oed, o Borth Tywyn ei ddal yn dilyn adroddiad am wrthdrawiad un cerbyd am 07:38 ar fore dydd Gwener 20 Chwefror ar ffordd yr A484 rhwng Pen-bre a Chydweli.

Cafodd Howells ei ddarganfod yn drwm dan ddylanwad alcohol ac roedd ei gar mewn ffos.

Dywedodd wrth yr heddlu ei fod ar y ffordd i gasglu dysgwr ar gyfer gwers yrru pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Pan gafodd ei arestio fe wnaeth canlyniad prawf alcohol fesur 110mg. 

Ychydig yn ddiweddarach, pan oedd yn y ddalfa, fe ddangosodd canlyniad ail brawf alcohol ganlyniad o 132mg - sydd bedair gwaith dros y terfyn cyfreithlon.

Yn dilyn y ddedfryd yn Llys Ynadon Llanelli, dywedodd y Prif Arolygydd Christina Fraser o Heddlu Dyfed-Powys: “Roedd Mr Howells yn gweithredu mewn swydd o ymddiriedaeth a chyfrifoldeb mawr.

"Mae swyddogion Plismona’r Ffyrdd wedi gweithio’n gyflym ar y cyd â chydweithwyr, Gwasanaeth Erlyn y Goron a’r DVSA, i sicrhau bod dysgwyr gyrru a defnyddwyr ffyrdd eraill wedi’u diogelu rhag unigolyn a oedd yn peri risg ddifrifol o niwed.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.