Wrecsam yn curo Caerdydd a chreu hanes wrth gipio Tlws Adran Genero

Tlws Genero

Wrecsam ddaeth i'r brig yn rownd derfynol Tlws Adran Genero ym Mangor nos Sul, gan guro Caerdydd ar giciau o'r smotyn.

Dyma oedd buddugoliaeth gyntaf Wrecsam mewn rownd derfynol yn unrhyw gystadleuaeth, ac roedd yn rhaid brwydro'n galed yn erbyn yr Adar Gleision yn y pen draw i greu hanes.

Roedd Caerdydd ar y blaen ddwywaith yn y gêm, ond fe frwydrodd menywod Jenny Sugarman yn ôl gan sicrhau buddugoliaeth wedi ciciau o'r smotyn.

Daeth torf o 1,374 i Fangor i wylio'r gêm, gan dorri'r record flaenorol.

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.