Wrecsam yn cyrraedd rhestr fer Dinas Diwylliant y DU unwaith eto
Mae Wrecsam wedi cyrraedd rhestr fer cystadleuaeth Ddinas Diwylliant y DU am yr eildro yn olynol.
Bydd y ddinas yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn cystadlu i fod yn Ddinas Diwylliant 2029 yn erbyn tri lleoliad yn Lloegr - Blackpool, Milton Keynes a Sheffield.
Mae'r teitl yn cael ei ddyfarnu bob pedair blynedd. Bradford yng Ngorllewin Swydd Efrog oedd yr enillydd ar gyfer 2025, gan guro Wrecsam, oedd hefyd ar y rhestr fer.
Bydd pob un o'r pedwar lleoliad ar gyfer 2029 yn derbyn o leiaf £125,000 i ddatblygu eu cais ymhellach, gyda'r nod o ennill y teitl a gwobr o £10 miliwn.
Fel rhan o'u ceisiadau, roedd yn rhaid i'r lleoliadau egluro sut y bydden nhw'n defnyddio diwylliant fel sbardun i drawsnewid eu hardaloedd a bywydau eu cymunedau, gan hybu twf, cyfleoedd a balchder lleol.
'Amrywiaeth a chryfder'
Cafodd y pedwar lleoliad eu hargymell gan banel cynghori arbenigol Dinas Diwylliant y DU, dan gadeiryddiaeth Syr Phil Redmond - crëwr y ddrama Hollyoaks.
“Unwaith eto, mae dewis anodd o'n blaenau,” meddai Syr Phil.
“Mae'r pedwar lle ar y rhestr fer yn parhau i ddangos amrywiaeth a chryfder uchelgais greadigol ledled y DU.
“Mae pob lle yn cynrychioli safbwynt neu agwedd wahanol, gan grynhoi'r hyn yw diwylliant - yr hyn rydyn ni'n ei wneud gyda'n gilydd.
“Er bod pob un yn mynd ati mewn ffordd wahanol, maen nhw i gyd yn rhannu'r nod cyffredin o atgoffa gweddill y DU pwy ydyn nhw, ble maen nhw a pham eu bod yn werth ymweld â nhw.
“Rwy'n edrych ymlaen at wneud hynny fy hun, ynghyd â gweddill y Panel Cynghori, yn y dyfodol agos.”
'Mae gan bob lle stori sy'n werth ei hadrodd'
Mae'r gystadleuaeth yn rhan o ymdrechion y Llywodraeth i hybu balchder ym mhob rhan o'r wlad ac annog twf economaidd.
Cafodd y rhestr fer ei llunio o blith naw cais ar y rhestr hir, a oedd hefyd yn cynnwys Inverness-Highland, Ipswich, Middlesbrough, Portsmouth a Swindon.
Dywedodd Ysgrifennydd Diwylliant y DU, Lisa Nandy: “Mae gan bob lle stori sy'n werth ei hadrodd am ei hanes unigryw, ei hunaniaeth a'i gyfraniad.
“Mae diwylliant gwych ym mhobman, ond dydy'r cyfle i'w arddangos, i'w roi ar lwyfan ac i ddangos sut mae wedi'i blethu i mewn i'n stori genedlaethol ddim ar gael i bawb.
“Dyna harddwch cystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU - dathliad pur o'r hyn sy'n gwneud ein trefi mwyaf a'n dinasoedd mor wych.”
Yn ôl yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, mae'r sylw diwylliannol wedi helpu i ddenu miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad ychwanegol ac wedi hybu adfywio yn y dinasoedd blaenorol sydd wedi ennill y teitl, gan gynnwys Derry-Londonderry, Hull a Coventry.
Y llynedd, cynhaliodd Bradford raglen ddiwylliannol o fwy na 6,500 o ddigwyddiadau, gyda dros 80% ohonyn nhw am ddim.
Fe wnaeth hynny arwain at fuddsoddiad mewn mwy na 30 o sefydliadau diwylliannol lleol.
Bydd enillydd teitl Dinas Diwylliant y DU 2029 yn cael ei gyhoeddi ar ddechrau 2027.
