URC yn chwilio am berchnogion preifat i Rygbi Gogledd Cymru
Mae Undeb Rygbi Cymru yn dweud eu bod wedi derbyn "diddordeb sylweddol" gan fuddsoddwyr posibl allai gymryd perchnogaeth dros Rygbi Gogledd Cymru, yr unig glwb lled-broffesiynol yng ngogledd y wlad.
Dywedodd URC eu bod wedi "dechrau’r broses o drosglwyddo perchnogaeth a gweithrediadau" y tîm "i ddwylo preifat o bosibl."
Mae'r clwb, sy'n cael ei adnabod fel RGC ac yn chwarae ei gemau cartref ym Mae Colwyn, wedi bod o dan berchnogaeth URC ers 2011.
Bellach mae tîm y dynion chwarae yng nghynghrair lled-broffesiynol Super Rygbi Cymru, sef yr haen uchaf ar wahân i'r bedair rhanbarth sy'n rhan o gystadleuaeth rhyngwladol y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.
Fe ddywedodd URC mewn datganiad nos Wener eu bod "yn gweithio’n agos gyda chynrychiolwyr Cyngor Rygbi Gogledd Cymru i nodi buddsoddwyr posibl sy’n barod i gymryd perchnogaeth o’r clwb fel endid annibynnol, ac mae diddordeb sylweddol eisoes wedi’i fynegi."
"Mae’r datblygiad yma’n cyd-fynd ag ymrwymiad gan Undeb Rygbi Cymru i symud RGC i gyfeiriad model ariannu newydd sy’n gyson â holl glybiau eraill Super Rygbi Cymru (SRC)," meddai.
"Y bwriad yw sicrhau y bydd Rygbi Gogledd Cymru yn derbyn cyllid uniongyrchol gan yr Undeb sy’n gymesur â’r hyn sy’n cael ei ddarparu i glybiau eraill SRC – gan greu sefyllfa gyfartal i bawb – ond sefyllfa sy’n gallu cynnig annibyniaeth weithredol i’r clwb gan groesawu buddsoddiad allanol hefyd."
'Cyfle gwych'
Fe sefydlwyd RGC yn swyddogol yn 2008 fel ffordd o gronni a datblygu talent rygbi yn y gogledd a chynnig llwybr i chwaraewyr i'r gêm broffesiynol a lled-broffesiynol.
Cododd tîm y dynion drwy'r cynghreiriau'n sydyn, gan ennill dyrchafiad i'r adran lled-broffesiynol uchaf. Mae'r clwb hefyd yn meddu ar Datblygu Chwaraewyr ar gyfer merched, yn ogystal â thimau iau ac Academi Ranbarthol Gogledd Cymru.
“Mae hwn yn gyfle gwych i fuddsoddwyr ymuno â chlwb rygbi yng Ngogledd Cymru sydd â photensial sylweddol wrth gystadlu mewn cynghrair ddomestig lled-broffesiynol sy’n mynd o nerth i nerth,” meddai Cyfarwyddwr Rygbi a Pherfformiad Elît URC , Dave Reddin.
“Rydym wedi ymrwymo i’n buddsoddiad yn y llwybr datblygu chwararewyr, yn y gêm ar gyfer y dynion a’r menywod, fel rhan o gynllun datblygu pum mlynedd i osod ac adeiladu sylfeini llawer cryfach ar gyfer adnabod a datblygu talent ledled Cymru."
“Mae rhanbarth Gogledd Cymru yn parhau i fod o bwys strategol i rygbi Cymru ac mae Rygbi Gogledd Cymru wedi chwarae rhan sylweddol wrth gynyddu cyfranogiad, darparu cynrychiolaeth i’n timau hŷn, a chreu llwybr addas sy’n gallu cadw a datblygu talent o fewn y rhanbarth."
