‘Un apêl olaf’ gan fam ar benblwydd bachgen a ddiflannodd yn 15 oed

Robert WIlliams.png

Mae mam bachgen a ddiflannodd yn 15 oed wedi gwneud “un apêl olaf am wybodaeth” amdano ar y diwrnod y byddai wedi troi’n 40 oed.

Cafodd Robert Williams, o Resolfen, Castell-nedd Port Talbot ei weld gan ei fam Cheryl ddiwethaf ar 22 Mawrth 2002, pan oedd yn 15 oed.

Fe aeth i barti mewn tŷ yn Nhai'r Felin, Aberdulais, y noson ganlynol, dydd Sadwrn 23 Mawrth, ond nid yw wedi ei weld ers hynny. 

Er gwaethaf ymchwiliadau helaeth a nifer o apeliadau am wybodaeth yn y 24 mlynedd ers hynny, nid yw Robert wedi cael ei ganfod.

Dywedodd Cheryl, mam Robert: “Bob munud o bob dydd rwy’n meddwl am Robert. 

“Bob dydd rwy’n meddwl tybed beth ddigwyddodd, a bob dydd rwy’n gobeithio cael atebion. Alla i ddim dechrau esbonio’r tristwch a’r gwacter rwy’n eu teimlo y tu mewn.

“Fyddai dim wedi rhoi mwy o bleser i ni fel teulu na dathlu pen-blwydd ein mab, brawd, ŵyr, nai ac ewythr yn 40 oed yn ei gwmni e.

“Y cyfan rydyn ni’n ei ddymuno yw ein bod wedi cael gweld pa fath o ddyn fyddai Robert wedi tyfu i fod. 

“A dymunwn y gallai weld y dyn ifanc anhygoel sydd mor falch o alw Robert yn frawd iddo.

“Byddai Rob wedi gwirioni ar ei nai a’i nith, na chafodd erioed y cyfle i’w cyfarfod.

“Wnes i erioed ddychmygu bywyd heb Rob, a’r torcalon fyddai’n dod o beidio â gwybod beth ddigwyddodd.”

Ychwanegodd: “Fy unig gais yw, os oes gan unrhyw un hyd yn oed y mymryn lleiaf o wybodaeth, peidiwch â bod ofn dod ymlaen a dweud y gwir. 

“Rydw i wedi clywed awgrymiadau erchyll dros y blynyddoedd am yr hyn a allai fod wedi digwydd. Ddylai neb orfod clywed pethau felly am eu plentyn eu hunain. 

“Ond bydd fy nerth bob amser yn fy nghadw i fynd er mwyn dod o hyd i’r gwir am yr hyn ddigwyddodd i Robert.”

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Danielle Thorne bod Cheryl wedi dioddef “dros ddau ddegawd o boen a rhwystredigaeth”.

“Allwn ni ddim dechrau deall yn iawn pa mor anodd mae’r profiad hwn wedi bod iddi,” meddai.

“Mae’r ymchwiliad wedi cael nifer o drywyddau i’w dilyn a gwybodaeth i’w gwirio. Ond, yn dorcalonnus, does dim wedi dod ohonyn nhw. 

“Serch hynny, rydyn ni’n dal i obeithio y bydd rhywun sy’n gwybod yn union beth ddigwyddodd i Robert yn dod ymlaen ac yn dod â’r chwilio i ben.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.