Tywysoges Cymru yn gwneud her tri chopa i 'roi rhywbeth yn ôl'

Tywysoges Cymru yn gwneud her tri chopa

Mae Tywysog Cymru wedi cwblhau her y tri chopa er mwyn codi arian ar gyfer elusen ganser.

Fe wnaeth y Dywysoges Catherine gerdded i gopaon Y Wyddfa, Scafell Pike a Ben Nevis dros y penwythnos.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol fe ddywedodd bod yr her wedi bod yn "gyfle i edrych ymhellach na'r diagnosis ac i roi rhywbeth yn ôl".

Yn 2024 fe ddatgelodd y dywysoges ei bod yn derbyn triniaeth ar gyfer canser ac y llynedd fe ddywedodd ei bod bellach yn glir o'r canser.

Fe ddywedodd y dywysoges fod canser "ddim yn unig yn effeithio ar dy gorff. Mae'n newid sut wyt ti yn meddwl ac yn teimlo ac yn cael effaith ddofn ar bob agwedd o dy fywyd.

“Dwi'n gwybod hyn yn bersonol fy hun a bod y siwrne yn ystod ac ar ôl y driniaeth yn golygu mwy na jest y feddyginiaeth. "

Ychwanegodd ei bod eisiau codi ymwybyddiaeth am "bwysigrwydd gofal iechyd holistaidd.

"Mae pob unigolyn yn wahanol ac mae sicrhau bod yna feddwl am y person cyfan yn galluogi'r rhai sy'n byw trwy'r canser i reoli'r her o ddiagnosis. 

Mae therapiau holistaidd yn mynd law yn llaw gyda llwybrau clinigol ac yn cefnogi'r claf i barhau gyda'i llesiant, ei gwytnwch ac ansawdd bywyd trwy gyfnod eithriadol o anodd." 

Mae'r dywysoges wedi bod yn codi arian ar gyfer Royal Marsden Cancer charity. 

Fe aethon nhw ati i sefydlu tudalen godi arian ar gyfer her gerdded Catherine gan ddweud y byddai'r arian fyddai yn cael ei godi yn "cefnogi mwy o bobl sydd gyda chanser i elwa o gael gofal holistaidd". 

Llun: Palas Kensington 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.