Y Fonesig Penelope Keith wedi marw'n 86 oed
Mae'r Fonesig Penelope Keith, oedd fwyaf adnabyddus am actio yn y cyfresi comedi The Good Life a To The Manor Born, wedi marw'n 86 oed.
Fe actiodd ran y cymeriad snobyddlyd Margo Leadbetter yn The Good Life, gafodd ei ddarlledu gyntaf yn 1975, a'r aristocrat Audrey fforbes-Hamilton yn To The Manor Born yn 1979.
Dywedodd datganiad ar ran ei theulu ddydd Llun: “Rydym yn drist iawn o gyhoeddi bod y Fonesig Penelope Keith wedi marw'n heddychlon tra'n byw gyda chanser yn ei chartref yn Surrey lle bu'n byw am fwy na 50 mlynedd.
“Mae'r teulu'n ddiolchgar am y gofal a'r gefnogaeth a dderbyniodd drwy gydol ei thriniaethau, ac yn gofyn am barchu eu preifatrwydd ar yr adeg hon.”
Dechreuodd y Fonesig Penelope ei gyrfa ar y llwyfan ac ymunodd â'r Royal Shakespeare Company ym 1963 ond daeth yn enw cyfarwydd am ei gwaith mewn cyfresi comedi poblogaidd ar y teledu.
Enillodd wobr Bafta ym 1977 am chwarae rhan Margo Leadbetter.
Cafodd ei llais ei ddefnyddio ar nifer o hysbysebion, gan gynnwys Pimm’s, Lurpak, a'r Parker Pen Company.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, roedd hi wedi dychwelyd i fyd y theatr, gan actio cymeriadau gan gynnwys Madame Arcati yn Blithe Spirit a Lady Bracknell yn The Importance Of Being Earnest.
Trodd ei llaw hefyd at raglenni ffeithiol, gan gynnwys Penelope Keith’s Hidden Villages, Penelope Keith’s Coastal Villages a Penelope Keith At Her Majesty’s Service.
Priododd yr heddwas Roger Timson ym 1978 a mabwysiadodd y cwpl ddau fab.
Cafodd ei gwneud yn Fonesig yn 2014 am ei gwasanaethau i’r celfyddydau ac elusen.