Gyrrwr beic modur wedi marw ger Beddgelert yng Ngwynedd
Mae dyn 61 oed wedi marw yn ardal Beddgelert yng Ngwynedd yn dilyn gwrthdrawiad.
Cafodd swyddogion yr heddlu eu galw i'r digwyddiad am ychydig ar ôl 11.30 ar ddydd Iau 25 Mehefin.
Roedd gwrthdrawiad beic modur ar y ffordd rhwng Nantmor a Nant Gwynant.
Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw'r dyn yn y fan a'r lle.
Dywedodd y Sarjant Simon Hughes o Uned Troseddau Ffyrdd Heddlu'r Gogledd: “Mae fy meddyliau gyda theulu'r dyn yn yr amser anodd hwn.
“Rwy'n apelio at unrhyw un a oedd yn gyrru ar hyd ffordd Beddgelert... a welodd neu sydd â lluniau camera dashfwrdd o feic modur BMW GS gyda phlatiau Gwyddelig i ddod ymlaen.
“Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo ein hymholiadau gysylltu â ni gan ddyfynnu cyfeirnod O099561.”