Trydydd person o Brydain ag achos posib o'r Hantafeirws

Llong bleser MV Hondius
MV Hondius

Mae trydydd person o Brydain ag achos posib o’r hantafeirws sydd yn gysylltiedig ag achosion ar fwrdd llong y MV Hondius, mae’r Llywodraeth wedi cadarnhau.

Mae’r claf yn aros ar ynys Tristan da Cunha yng Nghefnfor yr Iwerydd ar hyn o bryd, wedi i’r llong stopio yno fis Ebrill.

Mae achosion o’r feirws wedi’u cadarnhau mewn dau berson arall o Brydain.

Mae un dyn 69 oed yn derbyn gofal dwys yn Ne Affrica, tra bod dyn 56 oed o’r enw Martin Anstee mewn cyflwr sefydlog ar ôl cael ei gludo o’r llong i’r Iseldiroedd ddydd Mercher.

Mae pum achos o’r haint sy’n gysylltiedig â’r llong bellach wedi’u cadarnhau. Mae tri o bobl wedi marw naill ai ar fwrdd y llong neu ar ôl ei gadael.

Mae disgwyl i’r llong docio yn yr Ynysoedd Dedwydd dros y penwythnos.

Mae Llywodraeth y DU yn dweud bod awyren wedi’i siarteru i hedfan teithwyr a chriw Prydeinig y llong bleser yn ôl i’r wlad.

Er nad yw unrhyw un o’r rhai sy’n weddill yn profi unrhyw symptomau, bydd yn rhaid iddyn nhw hunan-ynysu ar ôl cyrraedd adref.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.