Tro pedol ar gais cynllunio dadleuol yn Sir Conwy

Twr

Mae cynllun dadleuol i godi caban yng ngardd llety Airbnb yn Llandrillo-yn-Rhos, Sir Conwy, wedi'i gymeradwyo ar ôl i gynghorwyr wneud tro pedol ym mhwyllgor cynllunio'r cyngor lleol.

Mae’r penderfyniad yn dilyn dadl hir am ystafell ardd sydd wedi ei ddisgrifio'n flaenorol fel “tŵr gwylio carchar”.

Roedd trigolion sy’n byw ar Ffordd Tan y Bryn wrth ymyl y strwythur wedi cwyno bod yr adeilad yn ormesol, a gorchmynnwyd i’r cyngor dynnu’r adeilad i lawr.

Ar ôl i sawl cais cynllunio arall gael ei wrthod, gwrthododd cynghorwyr ganiatâd ym mis Mawrth ar gyfer strwythur llai gafodd ei gynnig gan yr un ymgeisydd, Jim Oates, o JAM Domestic Properties.

Roedd y cynllun hwnnw’n ymwneud ag ailosod y strwythur blaenorol oedd wedi ei adeiladu heb ganiatâd.

Cafodd ei ddymchwel yn ddiweddarach yn dilyn camau gorfodi ar ôl i apêl i'r ​​Arolygiaeth Gynllunio gael ei gwrthod.

Ond yng nghyfarfod cynllunio diweddaraf Cyngor Sir Conwy ym Mae Colwyn ddydd Mercher fe gafwyd tro pedol ar y penderfyniad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.