Tri yn euog o lofruddio dyn o Aberystwyth oedd yn y carchar am ladd plentyn
Mae tri charcharor wedi’u cael yn euog o lofruddio dyn o Aberystwyth oedd yn y carchar am ladd plentyn.
Mae’r carcharorion Mark Fellows, 45 oed, Lee Newell, 57 oed, a David Taylor, 64 oed, wedi’u cael yn euog o lofruddio Kyle Bevan, 33 oed, yng ngharchar diogelwch uchel HMP Wakefield yng Ngorllewin Sir Efrog ar 4 Tachwedd y llynedd.
Roedd Bevan yn treulio dedfryd oes gydag isafswm o 28 mlynedd am lofruddio merch ddwyflwydd oed ei bartner, Lola James, yn Hwlffordd yn 2020.
Cafodd y tri diffynnydd eu gweld ar CCTV yn dilyn Bevan i mewn i’w gell ar ôl 17.30 ar 4 Tachwedd ac yn dod allan lai na phum munud yn ddiweddarach mewn hwyliau “bodlon, fel bod y gwaith wedi ei wneud”, meddai'r erlyniad.
Cafodd Bevan ei drywanu 25 o weithiau yn ystod yr ymosodiad ac fe wnaeth waedu i farwolaeth.
Cafodd ei “roi yn ei wely” ar ôl yr ymosodiad ac ni chafodd ei ddarganfod tan y bore canlynol, pan gafodd staff y carchar eu rhybuddio gan garcharor arall fod “rhywbeth o’i le gyda Bevan”.
Ddydd Iau, cafwyd Fellows, Newell a Taylor yn euog o lofruddio Bevan ar ôl i reithgor yn Llys y Goron Leeds ystyried yr achos am lai na thair awr.
Clywodd yr achos bod dau ymosodiad difrifol arall wedi bod yn yr wythnosau cyn marwolaeth Bevan - gan gynnwys un lle cafodd y canwr a'r pedoffeil o’r band Lostprophets, Ian Watkins o Bontypridd, ei drywanu i farwolaeth.
Fe fydd y tri yn cael eu dedfrydu ddydd Gwener.
