Angen i oedolion 'gymryd cyfrifoldeb' am ddefnydd plant o blatfformau digidol

Angen i oedolion 'gymryd cyfrifoldeb' am ddefnydd plant o blatfformau digidol

Mae menyw sydd wedi dioddef stelcian a bygythiadau arlein wedi dweud bod yn rhaid i "oedolion gymryd cyfrifoldeb" dros blant sy'n dod ar draws cynnwys anaddas ar y we.

Dywedodd cyn-enillydd Miss Cymru, Sara Manchipp, bod angen "gwneud mwy" 'na ddim ond gwahardd plant dan 16 oed  rhag cael mynediad i'r platfformau.

Daw ei sylwadau ychydig ddyddiau ar ôl i Brif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, gyhoeddi yr wythnos hon fod disgwyl i fesurau i wahardd plant dan 16 oed rhag defnyddio platfformau cymdeithasol gael eu cyflwyno i’r Senedd cyn y Nadolig.

Mae Sara Manchipp yn cyflwyno cyfres o ddwy raglen newydd ar S4C sy'n canolbwyntio ar arolwg sydd yn edrych ar effaith cynnwys sy'n cael ei rannu ar blatfformau digidol ar ymddygiad pobl ifanc.

Wrth ymateb i'r newyddion am y gwaharddiad, dywedodd Sara wrth Newyddion S4C: "Mae’n rhaid i ni feddwl, nage bai y bobl ifanc yw e, achos mae nhw’n blant rili - a ddylse’r cyfryngau cymdeithasol gymryd fwy o gyfrifoldeb ar y pethau mae’r plant yma yn gallu ei weld.

"Mae'n rhaid i ni stopio beio plant, ac mae'n rhaid i oedolion gymryd cyfrifodleb dros y sefyllfa."

Sara Manchipp oedd Miss Cymru yn ystod 2011, ac mae eisoes wedi siarad yn agored am ei phrofiadau erchyll o gael ei stelcian ar-lein, ac o dderbyn "bygythiadau ffiaidd" gan ddyn gafodd ei ddedfrydu i garchar am geisio llofruddio rhywun arall.

Image
Sara yn chyfweld person gyda hood ymlaen I guddio ei hunain

'Manosphere'

Yn ystod y ddwy raglen, mae Sara yn edrych drwy ganlyniadau'r arolwg, sydd wedi cael ei gynnal er mwyn edrych yn benodol ar ddylanwad y 'manosphere' ar bobl ifanc.

Mae’r 'manosphere' yn derm sy’n cyfeirio at rwydwaith eang o gymunedau, gwefannau, podlediadau a dylanwadwyr ar-lein sy’n trafod materion yn ymwneud â dynion, gwrywdod, perthnasoedd, hawliau dynion a rolau rhywedd.

Mae’n cynnwys amrywiaeth o safbwyntiau, o grwpiau sy’n canolbwyntio ar faterion fel iechyd meddwl dynion, unigrwydd a heriau cymdeithasol, i gymunedau mwy dadleuol sy’n hyrwyddo syniadau traddodiadol neu wrthdrawiadol am y berthynas rhwng dynion a menywod.

"Mae'n bwysig ein bod ni'n peidio beio cenhedlaeth o fechgyn ifanc, am ymddygiad rhai pobl," meddai Sara wrth Newyddion S4C.

"Fe ddechreuodd y syniad o wneud rhaglen fel hyn, o brofiad personol ges i nôl yn 2017, achos ges i fy'n stelcio ar lein.

"Ar ôl i hwnna ddigwydd, fe aeth [y stelciwr] i garchar - a fi'n credu fi wastad wedi meddwl, ti'mod, dwi moyn gwybod pam naeth e fe. Pa ffactorau naeth arwain e at gael shwt casineb tuag at menywod a perthnasau hollol aniachus gyda menywod hefyd."

Image
Sara yn weithio ar cliniadur wrth eistedd ar gadair yn ystafell golau

Mae’r manosphere yn destun trafodaeth a beirniadaeth aml, gyda rhai yn ei weld fel man i drafod problemau sy’n effeithio ar ddynion, tra bod eraill yn poeni bod rhai elfennau ohono’n gallu hybu agweddau negyddol neu elyniaethus tuag at fenywod.

Dywedodd Sara ei fod yn bwysig iddi sicrhau nad oedd y sgwrs yn troi yn rhywbeth fel "dynion yn erbyn menywod, bechgyn yn erbyn merched".

"A so ni moyn beio cenhedlaeth o fechgyn ifanc, achos does dim un bachgen yn codi lan yn y bore ac yn moyn casáu menywod, a dangos casineb tuag at menywod."

A dyna, meddai Sara, sy'n dangos yr effaith gall cynnwys ar y wê ei gael ar fywydau ifanc, a pham fod angen i gwmniau digidol "wneud mwy."

Image
Sara yn eistedd i lawr yn edrych ar tabled

Er bod yr arolwg yn y rhaglen yn canolbwyntio ar sut mae bechgyn a merched 16-20 oed yn gweld eu gilydd, a sut mae diwylliant ar-lein wedi effeithio ar eu hagweddau a’u llesiant, mae’r arolwg hefyd yn canfod bod rhai plant ar hyn o bryd yn dechrau defnyddio cyfryngau cymdeithasol mor ifanc â 10 oed, a bod rhai plant wedi dod ar draws cynnwys pornograffig ar lein erbyn eu bod yn 12 oed.

A dyna pam, meddai Sara, ei bod wedi gweld yr effaith niweidiol y gall cynnwys anaddas ar-lein ei gael ar bobl ifanc.

Erbyn hyn, mae Sara yn fam i fachgen ifanc pedair oed, ac er bod gwaharddiad ar gyfryngau cymdeithasol ar y gweill yn y DU, mae Sara yn dal i fod eisiau gweld rhagor o ddatblygiadau i warchod lles pobl ifanc ar-lein er mwyn eu paratoi ar gyfer "byd digidol".

"Fel rhiant, ti wastad yn becso am eich plant, ac ar ôl y profiad ges i ar-lein, mae fe wastad wedi bod ar gefn meddwl fi," meddai.

'Ti'n w'bod, un dydd bydd Tomos ar-lein, a mae fe moyn cael ffôn nawr. 

"Felly, fi moyn ffeindio mas beth syn union sy'n cael ei wneud i helpu ein plant a pobl ifanc ni i ddelio gyda'r byd digidol yma.'  

Sara Manchipp: I Mewn i’r Manosphere, ar alw: S4C Clic a BBC iPlayer a YouTube

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.