Arestio dyn ar amheuaeth o geisio llofruddio ar ôl i fachgen gael ei anafu mewn cawell crocodeiliaid

Old Hurst

Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ar ôl i fachgen tair oed gael ei anafu mewn cadwell crocodeiliaid mewn sw.

Dywedodd Heddlu Swydd Gaergrawnt eu bod nhw wedi cael eu galw am 1.24pm ddydd Iau ar ôl “adroddiadau am ddigwyddiad yn ymwneud â bachgen tair oed, aeth i gawell crocodeiliaid”.

“Mae’r bachgen wedi cael ei gludo i Ysbyty Addenbrooke’s yng Nghaergrawnt gydag anafiadau difrifol ac mae mewn cyflwr critigol ond sefydlog,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Mae swyddogion sydd wedi cael hyfforddiant arbennig yn yr ysbyty yn cefnogi teulu’r bachgen.

“Mae dyn 30 oed o Norfolk wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio.”

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Verity McCann: “Ar hyn o bryd rydym yn siarad â phobl oedd yn y sw ar adeg y digwyddiad gofidus hwn er mwyn deall mwy am yr amgylchiadau.

“Dydyn ni ddim yn credu bod y dyn sydd wedi cael ei arestio a’r plentyn yn adnabod ei gilydd.

“Mae swyddogion yn cefnogi teulu’r bachgen yn yr ysbyty ac mae ein meddyliau gyda nhw.”

Dywedodd Ben Obese-Jecty, yr AS dros Huntingdon: “Rwy’n ymwybodol o’r digwyddiad yn Johnson’s of Old Hurst ac rydw i wedi bod mewn cysylltiad â swyddogion uwch yn Gold Command, sy’n trin hyn fel digwyddiad critigol.

“Mae hwn bellach yn ymchwiliad troseddol byw a byddwn yn gofyn i bobl beidio â dyfalu ar-lein.

“Bydd yr heddlu yn rhoi diweddariad gyda rhagor o wybodaeth maes o law.

“Mae fy meddyliau gyda’r dioddefwr ifanc a’i deulu yn ystod cyfnod hynod drawmatig ac anodd.”

Yn ôl ei wefan, mae Johnson’s of Old Hurst yn fusnes ffermio teuluol sydd bellach yn cynnwys cigydd, siop fferm, ystafell de, bwyty stêcs a sw.

Mae’r sw yn gartref i fwy na 100 o anifeiliaid, gan gynnwys llewod, teigrod, a chrocodeiliaid.

Mae cofnod blog ar wefan y sw yn dweud bod y crocodeiliaid wedi cael eu cadw’n wreiddiol er mwyn helpu i gael gwared ar gig gwastraff o’r cigydd, ond eu bod wedi arwain at ddechrau’r sw.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Swydd Gaergrawnt: “Mae ein meddyliau gyda’r dioddefwr a’i deulu, ond gan fod hwn yn ymchwiliad heddlu byw, ni allwn wneud unrhyw sylw pellach.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.