Tri dyn yn gwadu llofruddio mab i gerddor o Gymru yn Llundain
Mae tri dyn wedi gwadu llofruddio mab i gerddor o Gymru yng ngogledd Llundain ym mis Ebrill.
Bu farw Finbar Sullivan, mab y cerddor Christopher Sullivan o Ferthyr Tudful, yn 21 oed ar ôl cael ei drywanu ar Fryn y Briallu ar nos Fawrth 7 Ebrill.
Yn Llys yr Old Bailey yn Llundain ddydd Gwener fe wnaeth tri dyn - Ernest Boateng, 25 oed, Alexis Bidace, 25 oed, ac Oliuwadamilola Ogunyankinnu, 27 oed, ymddangos mewn gwrandawiad ple o flaen y Barnwr Mark Dennis KC.
Gan siarad trwy gyswllt fideo o garchardai Belmarsh ac Isis, siaradodd y dynion i gadarnhau eu henwau a phledio'n ddieuog i dri chyhuddiad yn eu herbyn.
Mae'r tri diffynnydd wedi'u cyhuddo o lofruddiaeth a dynladdiad Mr Sullivan ac anhrefn treisgar.
Cafodd y tri dyn eu cadw yn y ddalfa.
Mae disgwyl i'w achos llys gael ei gynnal ar 5 Ebrill y flwyddyn nesaf.