Torïaid yn barod i ‘sgrapio’ newidiadau i’r cwricwlwm
Mae’r Blaid Geidwadol Gymreig wedi dweud eu bod nhw’n hapus i “sgrapio” newidiadau i’r cwricwlwm os nad ydyn nhw’n gweithio.
Mae'r cwricilwm newydd a gyflwynwyd y llynedd yn rhoi mwy o ryddid i ysgolion ddylunio eu cwricwlwm eu hunain o fewn fframwaith cenedlaethol, gyda'r gallu addasu’r hyn maen nhw’n ei addysgu i weddu i’w cymuned leol.
Dechreuodd myfyrwyr Blwyddyn 10 astudio cyrsiau newydd fel rhan o'r newidiadau i'r cwricwlwm ym mis Medi y llynedd, ac mae yna fwy o gymwysterau newydd i’w cyflwyno dros y ddwy flynedd nesaf.
Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Darren Millar, wrth raglen Politics Wales y bydden nhw’n cynnal “adolygiad brys” o’r cwricwlwm newydd os oedden nhw mewn grym ar ôl etholiad y Senedd ym mis Mai er mwyn sicrhau ei fod yn “ddigon da”.
“Yr hyn mae [athrawon] ei eisiau yw system addysg y gall y wlad fod yn falch ohoni,” meddai Darren Millar ar raglen Politics Wales.
“Rydyn ni’n gwybod bod athrawon yn teimlo wedi’u llethu gan y biwrocratiaeth sydd yn ein hysgolion ar hyn o bryd, ac nad ydyn nhw’n cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw.
“Ac mae’r cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru – y cwricwlwm newydd yng Nghymru – wedi’i seilio ar gwricwlwm yr Alban, sydd wedi bod yn fethiant llwyr i’r system.”
Fe ychwanegodd: “Os mai canlyniad ein hadolygiad yw nad yw’r system bresennol yn mynd i gyflawni’r gwelliannau sydd eu hangen arnom yn system addysg Cymru, byddwn yn ei sgrapio.
“Does dim pwynt parhau gydag arbrofion aflwyddiannus.
“Rydyn ni am i fyfyrwyr gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd gyda’r system addysg ysgol orau bosibl.”
Dywedodd ei fod yn cydnabod na fyddai unrhyw blaid yn ennill mwyafrif yn y Senedd ym mis Mai.
“Rydw i am sicrhau bod cymaint o Geidwadwyr â phosibl yn dychwelyd i’r Senedd, gan ychwanegu at ein niferoedd,” meddai.
“Oherwydd po fwyaf o Geidwadwyr Cymru sy’n cael eu hethol, y gorau yw’r cyfleoedd sydd i ni weithredu polisïau Ceidwadwyr Cymru.”
Ymateb
Wrth ymateb i sylwadau Darren Millar, dywedodd Llywodraeth Cymru: “Rydym yn falch o fod wedi gweithio gydag athrawon ac arbenigwyr i greu cwricwlwm newydd sy’n cefnogi dysgwyr i fod yn hyderus ac yn greadigol, gyda’r sgiliau bywyd a’r wybodaeth sydd eu hangen i’w helpu i gyrraedd eu potensial.
“Mae gwerthusiadau wedi dangos bod ysgolion yn cofleidio’r cwricwlwm newydd yn hyderus, a byddwn yn parhau i weithio gydag ysgolion i sicrhau bod ganddynt y gefnogaeth sydd ei angen arnynt i gyflwyno’r cwricwlwm ac ymdrin ag unrhyw bryderon.”
Mae'r Blaid Lafur, Plaid Cymru, Reform, y Democratiad Rhyddfrydol a'r Blaid Werdd wedi cael cais am ymateb.

