Topshop nôl yng Nghaerdydd
Bum mlynedd ers i'w siopau gau, mae cwmni dillad Topshop bellach yn ôl yng Nghaerdydd a sawl dinas a thref yn Lloegr a'r Alban, wedi iddyn nhw ddod o dan adain cwmni John Lewis.
O ddydd Mawrth, bydd dillad Topshop yn cael eu gwerthu mewn 32 o siopau John Lewis yn y Deyrnas Unedig wedi i bartneriaeth newydd gael ei ffurfio rhwng y ddau gwmni.
Bydd dillad Topman ar werth mewn saith cangen.
Mae John Lewis yn ceisio denu mwy o bobl ifainc i'w siopau.
Fe gaeodd pob un o siopau Topshop yn 2021 ar ôl i'w rhiant gwmni Arcadia alw'r gweinyddwyr.
Prynodd Asos y cwmni bum mlynedd yn ôl, gan werthu nwyddau Topshop ar-lein, ac fe agorodd ambell gangen y llynedd.
Mae ychwanegu Topshop yn rhan o fuddsoddiad gwerth £800 miliwn gan John Lewis
Dywedodd Michelle Wilson, rheolwr gyfarwyddwr Topshop: “ Mae creu partneriaeth gyd John Lewis yn dod â Topshop yn ôl i'r stryd fawr, gyda lefel o wasanaeth y mae ein cwsmeriaid yn ei ddisgwyl.”
Yn ôl Pete Ruis, rheolwr gyfarwyddwr John Lewis, mae denu Topshop yn nodi'r camau cyntaf wrth i John Lewis geisio cyflawni eu huchelgais ym maes ffasiwn.