'Y system wyddoniaeth fforensig mewn argyfwng'
Mae un o bwyllgorau Tŷ'r Arglwyddi wedi rhybuddio bod sefyllfa'r system wyddoniaeth fforensig yng Nghymru a Lloegr yn y broses o ddatblygu'n "sgandal genedlaethol".
Daeth adroddiad gan Bwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg Tŷ'r Arglwyddi i'r casgliad nad yw gwyddoniaeth fforensig yng Nghymru a Lloegr yn gweithio - boed hynny i'r heddlu, gwyddonwyr fforensig, cyfreithwyr neu'r cyhoedd.
Mae'r adroddiad newydd yn cefnogi sylwadau'r gwyddonydd fforensig blaenllaw, yr Athro Angela Gallop, am y system yn flaenorol.
Roedd yr Athro Gallop yn rhan o'r tîm fforensig a oedd yn ymchwilio i ddwy lofruddiaeth ddwbl erchyll yn Sir Benfro yn yr 1980au.
O ganlyniad i'w gwaith, llwyddodd yr Athro Gallop i gael tystiolaeth i brofi mai John Cooper oedd yn gyfrifol am lofruddio'r brawd a chwaer Richard a Helen Thomas ym mis Rhagfyr 1985, a Peter a Gwenda Dixon, gŵr a gwraig o Sir Rydychen, ym mis Mehefin 1989.
Yn ôl adroddiad y pwyllgor, mae'r system wyddoniaeth fforensig mewn "argyfwng" ac mae'n galw ar Lywodraeth y DU i "weithredu ar unwaith".
Ymhlith y problemau mae nifer fach o gwmnïau'n dominyddu'r farchnad, diffyg cysondeb o fewn labordai fforensig heddluoedd, a'r ffaith bod dros 20,000 o ddyfeisiau digidol yn disgwyl i gael eu harchwilio fel rhan o ymchwiliadau troseddol, yn ôl y ddogfen.
Mae'n dweud bod hyd yn oed gweinidogion y llywodraeth yn cyfaddef bod angen diwygio'r system.
Mae'r pwyllgor yn argymell creu Sefydliad Gwladol ar gyfer Gwyddoniaeth Fforensig eleni.
Y bwriad ydi gwella safonau, amddiffyn sgiliau arbenigol, a sicrhau bod tystiolaeth fforensig yn ddibynadwy.
'Camweinyddu cyfiawnder'
Dywedodd yr Arglwydd Mair CBE, cadeirydd y Pwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg, bod y sefyllfa yn datblygu i fod yn "sgandal ".
"Wrth i’r system gwyddoniaeth fforensig barhau i ddirywio er gwaethaf nifer o rybuddion, mae esgeulustod graddol yn dechrau ymddangos fel methiant syfrdanol gan y Llywodraeth i gymryd cyfrifoldeb, ac mae yn y broses o ddatblygu'n sgandal genedlaethol," meddai.
"Os yw'r dirywiad hwn yn parhau, mae'n anochel y bydd rhagor o achosion o gamweinyddu cyfiawnder."
Ychwanegodd: "Rydym yn croesawu'r cyfeiriad yn y Papur Gwyn ar Ddiwygio Plismona a gafodd ei gyhoeddi'n ddiweddar, sy’n cyflwyno cyfleoedd ar gyfer newid fel sefydlu gwasanaeth gwyddoniaeth fforensig gwladol a rhesymoli'r heddluoedd cymhleth presennol.
"Fodd bynnag, mae’r manylion am sut y bydd gwyddoniaeth fforensig yn gweithredu o fewn y system newydd hon, ac yn hollbwysig, sut y bydd ei hannibyniaeth oddi wrth yr heddlu yn cael ei diogelu, yn parhau’n hynod o amwys, fel y mae’r amserlenni ar gyfer gweithredu’r newidiadau hyn.
"Ni ddylid caniatáu i’r diwygiadau hyn, sydd eu hangen yn fawr, gael eu hoedi."
Mae Newyddion S4C wedi gwneud cais am ymateb gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.