Dechrau ar waith newydd i arafu erydiad traeth Dinas Dinlle
Bydd gwaith yn dechrau yn fuan i arafu erydiad traeth Dinas Dinlle ar arfordir gogledd-orllewin Gwynedd.
Y bwriad yw lleihau maint grwyn (groyne) â strwythur syân helpu i reoli erydiad arfordirol trwy arafu symudiad tywod, cerrig mân a graean ar y traeth.
Cafodd y grwyn ei adeiladu yn 1994, ond mae pryderon bellach bod ei faint yn cyfrannu at yr erydiad a welwyd tuaâr gogledd oâr traeth.
Gobaith Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), syân cwblhauâr gwaith, yw y bydd lleihau maint y grwyn yn arafu cyfradd yr erydiad syân effeithio ar y traeth iâr gogledd ohono.
Os yw gwaith monitroân dangos bod lleihau maint y grwyn yn cael effaith negyddol ar symudiad graean neu amodau traethau lleol, bydd CNC yn ei adfer iâr lefel bresennol, medden nhw.
Dywedodd Keith Ivens, Rheolwr Gweithrediadau Rheoli Llifogydd a DĹľr CNC, bod y graean ar y traeth yn âchwarae rhan allweddol wrth amddiffyn y glannau rhag erydiadâ.
âRydym yn deall y gallai fod gan drigolion lleol gwestiynau, a hoffem sicrhauâr gymuned mai gwaith byrdymor yw hwn, sydd wediâi gynllunioân ofalus, a bydd yn cael ei fonitroân agos i sicrhauâr canlyniad amgylcheddol gorau,â meddai.
Dylaiâr gwaith gael ei gynnal ym mis Mawrth 2026, medden nhw.
Bydd un cloddiwr a lori dympioân gwneud y gwaith, a bydd yn cymryd tua phedwar diwrnod iâw gwblhau.
Unwaith y bydd y gwaith wediâi gwblhau, bydd CNC yn monitroân agos sut maeâr traeth yn ymateb, medden nhw.
Maeâr clogwyni uwchben traeth Dinas Dinlle yn gartref i olion caer oâr Oes Haearn, yn ogystal â thš crwn o gyfnod y Rhufeiniaid.
Mae pryderon y gallaiâr olion ddiflannu iâr mĂ´r o fewn 50 mlynedd.