Teyrnged i ddyn o Lanbedr Pont Steffan fu farw mewn gwrthdrawiad ger Aberystwyth
Mae teulu dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad un cerbyd ar ffordd yr A487 ger Aberystwyth wedi rhoi teyrnged iddo.
Roedd Matthew Sims yn 30 oed ac yn dod o Lanbedr Pont Steffan.
Fe ddigwyddodd y ddamwain ym Mlaenplwyf ar 11 Gorffennaf.
Bu farw Mr Sims yn Ysbyty Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd bum niwrnod yn ddiweddarach.
Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei deulu: “Bu farw Matt ddydd Iau 16 Gorffennaf 2026 yn Ysbyty Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd, yn dilyn damwain beic modur ar y ffordd i Aberystwyth wrth iddo deithio i'r gwaith fore Sadwrn 11 Gorffennaf 2026.
“Roedd yn dad cariadus i'w ferched, Emma a Beca, ac yn bartner i Katie.
“Roedd ganddo gylch eang o deulu a ffrindiau, a bydd cynifer o bobl yn teimlo ei golli'n fawr.
“Gorffwys mewn heddwch, Matt.”
Mae swyddogion yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â'r heddlu.
