Teyrnged i 'ddyn ifanc caredig' fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mlaenau Gwent
Mae teulu dyn 19 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mlaenau Gwent fis diwethaf wedi rhoi teyrnged iddo, gan ei ddisgrifio fel dyn ifanc “caredig, gofalgar, ystyrlon a chariadus.”
Bu farw Lewis Evans, o ardal Markham ger y Coed Duon, yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd y B4560 i'r gogledd o Garnlydan ar 30 Hydref.
Mae Heddlu Gwent bellach wedi cyhoeddi teyrnged iddo gan ei deulu.
“Lewis oedd y dyn ifanc mwyaf caredig, gofalgar, ystyrlon a chariadus y gallech fod wedi cwrdd ag ef," meddai'r deyrnged.
“Roedd yn goleuo’r ystafell gyda’r wên heintus oedd wastod ar ei wyneb.
“Lewis oedd ein marchog mewn arfwisg sgleiniog; roedd bob amser yn gwybod sut i godi calon ei deulu a’i ffrindiau gyda geiriau caredig a doeth, pryd bynnag yr oedd angen ei gefnogaeth arnynt.”
Ychwanegodd y deyrnged: “Roedd dau beth yr oedd Lewis yn eu caru’n fawr yn ei fywyd; ei feic modur, a deithiodd filltiroedd maith arno wrth grwydro gyda’i daid.
“Yr ail beth oedd ei gar. Nid oedd dim byd yr oedd yn ei garu’n fwy na mynd ar deithiau yn ei gar gyda’i ffrindiau a dangos iddynt y lleoedd yr oedd yn hoffi ymweld â nhw fwyaf.
“Roedd wastod yn gwybod beth roedd am ei gyflawni mewn bywyd ac yn gweithio’n hynod galed i wireddu’r uchelgeisiau hynny; yn ddiweddar, roedd yn astudio yn y brifysgol er mwyn cyflawni ei nod o ddod yn swyddog heddlu.
“Disgleiria’n llachar, fy machgen i; rydym yn dy garu di am byth.”

