Teyrnged i ddyn o Drefor a fu farw mewn gwrthdrawiad ger Blaenau Ffestiniog
Mae teulu dyn 58 oed o Wynedd a fu farw mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A470 rhwng Dolwyddelan a Blaenau Ffestiniog ddydd Sul wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Alan Williams yn y gwrthdrawiad ar Fwlch y Gorddinan.
Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei deulu: "Roedd Alan, neu Yncl Al fel yr oedd yn cael ei adnabod, yn fab, brawd, ewythr, partner a ffrind gorau cariadus i lawer o bobl.
"Roedd wedi ei ymrwymo i'w deulu ac roedd yn eu caru'n fawr a byddai’n gwneud unrhyw beth i unrhyw un.
"Roedd yn ddyn gweithgar a oedd ag amser i bawb. Roedd yn adnabyddus yn yr ardal leol, lle bu’n gweithio fel saer coed ac roedd ei gwsmeriaid bob amser yn ei ystyried yn uchel ei barch.
"Roedd yn mwynhau treulio amser gyda'i ffrindiau a'i deulu, ac roedd yn adnabyddus am y jôcs yr oedd yn eu cael ag eraill."
Ychwanegodd y deyrnged fod gan Mr Williams "nifer o ddiddordebau gan gynnwys heicio, caiacio, cerddoriaeth a hanes lleol. Roedd wrth ei fodd ag anifeiliaid a bod yn yr awyr agored ac roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn bwyd.
"Yn ei amser rhydd, roedd Alan hefyd yn mwynhau bod allan ar ei feic modur. Roedd yn feiciwr modur brwd ac angerddol. Mae'r gymuned leol mewn sioc yn dilyn ei farwolaeth.
"Hoffem ddiolch i'r rhai sydd wedi cydymdeimlo yn ystod y cyfnod anodd yma. Mae ein calonnau ni fel teulu wedi eu torri ac rydym ni angen yr amser i alaru. Rydym yn gofyn am breifatrwydd yn ystod y cyfnod yma."
Mae swyddogion yn parhau i apelio am dystion a gwybodaeth a allai eu helpu gyda'u hymoliadau.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car a beic modur ar Fwlch y Gorddinan am tua 13:30 ddydd Sul.
Mae'r heddlu yn apelio am unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 26000648860.