Teyrnged i ddyn 22 oed fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Benfro
Mae teyrnged wedi ei roi gan deulu dyn 22 oed sydd wedi ei ddisgrifio fel person 'clên a chariadus' a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Benfro ddydd Mercher.
Bu farw Callum Hanson, o Hwlffordd, mewn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr A4075 ger Cross Hands, rhwng Pont Canaston a Yerbeston, a ddigwyddodd am tua 18.20.
Roedd yn gyrru beic modur Yamaha gwyn gyda menyw 22 oed yn teithio ar y cefn, pan fuodd gwrthdrawiad gyda char Kia Sorrento llwyd.
Cafodd Callum Hanson a'r fenyw eu cludo i'r ysbyty, le bu farw Mr Hanson yn ddiweddarach.
Ni chafodd gyrrwr y Kia Sorrento, dyn 60 oed, ei anafu.
Cafodd y lôn ei chau yn dilyn y gwrthdrawiad ac mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau gyda'u hymchwiliadau.
Mewn teyrnged, dywedodd teulu Mr Hanson eu bod yn "dymuno ei gofio fel person clên a cariadus, a oedd yn byw ei fywyd i'r eithaf er gwaethaf ei heriau personol.
"Roedd yn berson hynod ofalgar a dreuliodd y mis diwethaf yn edrych ar ôl ei dad-cu, a fu farw'n ddiweddar. Roedd Callum yn angerddol dros gemau gyfrifiadurol a beiciau modur ac roedd yn hyfforddi i fod yn beiriannydd yn y coleg.
"Fe fydd Callum yn cael ei gofio gan ei fam Joanne, ei dad Carl, chwaer Kacey, mam-gu Heather, cariad Emily a'i ffrindiau a theulu ehangach."
"Hoffai'r teulu ofyn am breifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn," ychwanegodd llefarydd ar ran y llu.
Byddai swyddogion sy’n ymchwilio yn hoffi siarad ag unrhyw un oedd yn teithio ar hyd yr A4075 ar y pryd, neu unrhyw un sydd â chamera dashfwrdd yn eu cerbydau.
