Te yn y grug? Cyflwyno cais am safle ‘glampio’ yn Rhosgadfan

Tipis Rhosgadfan

Mae cais wedi cael ei gyflwyno i greu safle ‘glampio’ ecogyfeillgar ar gyfer tipis ar dir â pherllan gymunedol mewn pentref yng Ngwynedd.

Bydd Cyngor Gwynedd yn ystyried cais cynllunio i newid defnydd y tir yn Rhosgadfan, sy’n nodedig fel man geni Kate Roberts, awdur Te yn y Grug a Traed Mewn Cyffion sy’n cael eu cyfri’ ymysg gweithiau llenyddol mwyaf yr 20fed ganrif.

Ar hyn o bryd, mae safle’r cais yn cynnwys tir pori amaethyddol sy’n gysylltiedig ag annedd o’r enw Rhiw Goch, ar gyrion pentref Rhosgadfan.

Michael Burke sydd wedi cyflwyno’r cynllun drwy’r asiant Molly Jones.

Yn ogystal â'r tipis, byddai adeilad unllawr wedi’i orchuddio â phren hefyd a fyddai yn cynnwys toiledau a chawodydd, ynghyd â lle storio.

Byddai'r safle hefyd yn cynnwys maes parcio ag arwyneb o wastraff llechi wedi’i adfer, perllan gymunedol a man tyfu.

Byddai llwybrau cerdded yn cysylltu’r llety, yr ardaloedd cymunedol a’r llwybr troed cyhoeddus. Byddai gwaith tirlunio â rhywogaethau brodorol a gwelliannau bioamrywiaeth hefyd yn cael eu cyflwyno, meddai'r cais.

Dywed y cynlluniau: “Nod y cynnig yw darparu llety o safon uchel i ymwelwyr a fydd yn cael effaith fach ar yr amgylchedd.

“Byddai’n cefnogi’r economi wledig, yn hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy ac yn cyd-fynd â chymeriad, tirwedd a hunaniaeth ddiwylliannol yr ardal gyfagos.”

Datgymalu

Mae’r safle ar gae ar lethr ger yr annedd bresennol. Mae’n rhan o dirwedd wledig ehangach sy’n cynnwys tir amaethyddol, ffiniau caeau, llystyfiant presennol a datblygiadau adeiledig gwasgaredig.

Mae’r cynnig yn dweud y byddai lle i hyd at bedwar gwestai ym mhob tipi, gan olygu y gallai hyd at 20 o westeion aros ar y safle.

“Bydd y tipis yn cael eu gosod ar lwyfannau pren a’u trefnu ar draws y safle er mwyn cynnal preifatrwydd, lleihau’r effaith weledol ac ymateb i dopograffeg a phatrwm caeau presennol y safle,” meddai’r cynlluniau.

“Mae’r strwythurau yn ysgafn, dros dro ac yn gallu cael eu symud. Dim ond yn ystod y tymor gweithredu y byddan nhw’n cael eu defnyddio.”

Dim ond yn dymhorol, rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref, y byddai’r safle glampio yn gweithredu.

Mae’r cynlluniau yn dweud y byddai’r tipis yn cael eu datgymalu ar ddiwedd pob tymor. Bydden nhw’n cael eu cadw yn ardal storio’r adeilad cyfleusterau yn ystod misoedd y gaeaf.

Llun: Darlun o'r tipis arfaethedig

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.