Merch yn ei harddegau a dynes wedi marw ar ôl mynd i drafferthion ar draeth
Mae merch yn ei harddegau a dynes yn ei 40au wedi marw ar ôl mynd i drafferthion ar draeth yn Essex.
Dywedodd llygad-dyst fod y ddwy wedi marw ar ôl i’r llanw ddod i mewn tra'r oedd grŵp o bobl ar dywod ger parc gwyliau.
Dywedodd Heddlu Essex fod swyddogion wedi cael eu galw gan y gwasanaeth ambiwlans am 17:35 ddydd Mercher, ar ôl adroddiadau bod nifer o bobl mewn trafferthion yn y dŵr ger Seaview Avenue, yn nhref West Mersea, Essex.
Cadarnhaodd yr heddlu y marwolaethau fore Iau.
Mae trydydd person yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol. Mae dau berson arall yn yr ysbyty gydag anafiadau nad ydynt yn peryglu eu bywydau, meddai’r heddlu.
Dywedodd swyddogion eu bod yn credu bod y bobl oedd yn rhan o’r digwyddiad yn adnabod ei gilydd.
Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Dwyrain Lloegr fod un claf wedi cael ei gludo i’r ysbyty mewn ambiwlans awyr.
Cafodd tri chlaf arall eu cludo i’r ysbyty mewn ambiwlans ar ôl y digwyddiad yn y dŵr ym Mharc Gwyliau Sea View.
Llanw uchel
Dywedodd menyw, oedd am aros yn ddi-enw, fod y digwyddiad yn West Mersea wedi digwydd pan oedd y llanw’n uchel.
“Roedd y llanw wedi dod i mewn lawer ymhellach nag y mae nawr. Roedden nhw ar y banc tywod yna ac fe ddaeth y llanw i mewn,” meddai.
“Mae’n dod i mewn yn gyflym iawn ac mae’n rhaid i chi fod yn ofalus.”
Dywedodd y llygad-dyst fod “panig llwyr” yn dilyn hynny.
“Roedd hofrennydd yn dod i mewn, yr hofrennydd yn hedfan mewn cylchoedd a seirenau i’w clywed ym mhobman,” meddai.
“Roedd y traeth yn llawn pobl. Roedden nhw’n dod i lawr i weld beth oedd yn digwydd.”
Roedd y gwasanaethau brys wedi annog pobl i osgoi rhan o’r traeth ar ôl yr hyn gafodd ei ddisgrifio gan dîm achub gwylwyr y glannau fel “digwyddiad trasig”.
Dywedodd y Prif Arolygydd Ditectif Al Pitcher: “Heddiw, mae ein meddyliau’n parhau gyda’r teuluoedd sy’n ceisio dod i delerau â’u colled.
“Rydyn ni’n ddiolchgar i’r bobl sydd eisoes wedi siarad â ni ac wedi helpu gyda’n hymholiadau.
“Bydden ni’n gofyn i unrhyw un oedd ar y traeth ar y pryd, ac sydd heb siarad â swyddogion eto, i gysylltu â ni er mwyn ein helpu i ddeall beth ddigwyddodd.”