Andy Burnham a Rhun ap Iorwerth am gwrdd yn yr Alban ddydd Iau
Fe fydd y Prif Weinidog newydd y DU Andy Burnham yn cwrdd â Phrif Weinidog Cymru am y tro cyntaf ddydd Iau, a hynny yn yr Alban.
Bydd Andy Burnham yn teithio i’r Alban er mwyn mynychu seremoni agoriadol Gemau’r Gymanwlad dydd Iau.
Fe fydd hefyd yn cwrdd â Phrif Weinidog yr Alban, John Swinney, ar yr un daith.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn “edrych ymlaen” i gael cwrdd, a’i fod yn “briodol” eu bod nhw’n cyfarfod yn yr Alban.
“Mae hynny’n tanlinellu dadl Cymru dros gael yr un pwerau a model ariannu tecach sy’n adlewyrchu ein hanghenion,” meddai.
“Rwy’n cytuno’n llwyr ynghylch grymuso cymunedau. Mae hynny wrth wraidd fy ngwleidyddiaeth.
“Ond dylai penderfyniadau sy’n effeithio ar Gymru gael eu gwneud yng Nghymru, a mater i Lywodraeth Cymru a’n Senedd ni yw gweithio gyda phobl Cymru ar sut mae pŵer yn cael ei arfer a’i rannu o fewn ein cenedl.
“Ar adeg pan mae teuluoedd yn dal i deimlo pwysau costau byw, rwyf hefyd yn awyddus i drafod sut gall ein llywodraethau gydweithio fel partneriaid cyfartal i wella bywydau pobl Cymru.”
Mae Rhun ap Iorwerth a John Swinney ill dau yn cefnogi annibyniaeth i’w gwledydd yn y pen draw.
Dywedodd Andy Burnham, cyn-faer Manceinion, na fydd yn ystyried cynnal unrhyw refferendwm a’i fod yn canolbwyntio yn lle hynny ar sicrhau twf economaidd.
Cyn y cyfarfodydd, dywedodd y Prif Weinidog: “Pan fyddaf yn dweud bod angen twf da ym mhob cod post, rwy’n golygu pob cod post ar hyd a lled y DU. Mae pob lle a phob person yn bwysig.
“Dydw i ddim yn canolbwyntio ar sgorio pwyntiau nac ar drafod newidiadau cyfansoddiadol fel refferenda. Rydw i am weld camau ymarferol i helpu pobl i fyw yn dda ac i adfer gobaith.”
'Adeiladol'
Dywedodd Prif Weinidog Cymru yn flaenorol na chafodd gyfarfod â’r cyn-Brif Weinidog, Syr Keir Starmer, oherwydd yr “anhrefn yn San Steffan”.
Daeth Plaid Cymru i rym yng Nghymru ym mis Mai ar ôl i ganlyniad etholiad hanesyddol weld y blaid yn disodli Llafur Cymru ar ôl mwy na dau ddegawd mewn grym.
Rhoddodd y canlyniad hwnnw yn ei dro ragor o bwysau ar Syr Keir i ymddiswyddo fel Prif Weinidog y DU.
Wrth siarad ar raglen Today fore Mercher, dywedodd Rhun ap Iorwerth: “Fe ges i sgwrs ag Andy Burnham ddoe a’i longyfarch ar ddod yn Brif Weinidog.
“Fe wnaethon ni’n dau ei gwneud yn glir ein bod ni eisiau perthynas gadarnhaol ac adeiladol.
“Rwy’n gwybod ei fod yn deall datganoli ym Manceinion. Rydw i eisiau ei helpu i ddeall beth mae datganoli yn ei olygu yng Nghymru a pha adnoddau sydd eu hangen arnon ni i wneud iddo weithio’n well.
“Mae gen i fandad i arwain llywodraeth a etholwyd ar sail addewid i ddatganoli pwerau dros blismona a chyfiawnder i Gymru, i ddatganoli pwerau a chyllid rheilffyrdd i Gymru, ac i gael yr hawl i reoli ein hadnoddau naturiol ein hunain.
“Felly mae yna restr, os liciwch chi, o bethau y mae angen eu datganoli nawr er mwyn mynd â hanes Cymru, a hanes datganoli, i’r lefel nesaf.
“Mae’n amlwg bod gennym ni Brif Weinidog nawr sy’n barod i wrando, efallai mewn ffordd nad oedd Keir Starmer, ac rwy’n awyddus i wneud popeth o fewn fy ngallu i gyflwyno’r achos dros Gymru.”
Nos Lun fe wnaeth Rhif 10 Downing Street gyhoeddi mai Stephen Kinnock oedd yr Ysgrifennydd Cymru newydd, gan gymryd lle Jo Stevens yn y Cabinet.
Dywedodd Stephen Kinnock, AS Aberafan Maesteg, ei fod “yn hynod falch ac anrhydeddus o fod yn Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru”.
“Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth y DU a chydweithwyr a chymunedau ledled Cymru wrth i ni geisio sicrhau y gall pobl ein cenedl wych fanteisio ar y cyfleoedd sydd o'n blaenau,” meddai.