Yr UDA am ganiatáu i Saudi Arabia ddatblygu rhaglen niwclear
Mae’r Unol Daleithiau a Saudi Arabia wedi llofnodi cytundeb a fydd yn caniatáu i’r deyrnas yn y Gwlff ddatblygu rhaglen niwclear.
Yn ôl Adran Ynni’r Unol Daleithiau, bydd yn rhoi “mynediad i gwmnïau Americanaidd at raglen ynni niwclear Saudi Arabia”.
Mae cyfryngau’r Unol Daleithiau yn adrodd y gallai’r cytundeb olygu caniatáu i Saudi Arabia gyfoethogi wraniwm yn y dyfodol.
Mae wraniwm wedi’i gyfoethogi yn gallu cael ei ddefnyddio fel tanwydd mewn gorsafoedd ynni, ond hefyd i gynhyrchu bomiau niwclear.
“Gyda’i gilydd, mae’r ddau gytundeb yn gosod y sylfaen gyfreithiol ar gyfer partneriaeth gwerth biliynau o ddoleri a fydd yn para am ddegawdau,” meddai Adran Ynni’r Unol Daleithiau.
“Bydd y bartneriaeth yn hyrwyddo sawl amcan economaidd a strategol sy’n flaenoriaeth, gan gynnwys atal arfau niwclear rhag lledaenu.”
Dywedodd Llywodraeth Saudi Arabia fod y cytundeb “yn ymestyn y cydweithredu presennol rhwng y ddwy wlad yn y sector ynni”.
Mae arbenigwyr yn dweud mai dyma fyddai’r tro cyntaf i’r Unol Daleithiau gytuno i drefniant o’r fath.
Ond mae eraill wedi mynegi pryder y gallai'r cynllun arwain yn y pen draw at Saudi Arabia yn datblygu arf niwclear.
Dywedodd Rosemary Kelanic, cyfarwyddwr rhaglen y Dwyrain Canol yn y melin drafod Defense Priorities yn yr Unol Daleithiau, wrth y BBC y byddai'n "eithaf syfrdanol" pe bai'r cytundeb yn caniatáu i Saudi Arabia gael cyfleusterau i gyfoethogi wraniwm.
"Nid yw'r Unol Daleithiau erioed wedi gwneud hynny o'r blaen, nid ydym erioed wedi helpu gwlad arall i gyfoethogi [wraniwm] ei hun," meddai.
“Os gallwch chi gynhyrchu eich tanwydd niwclear eich hun, rydych chi'n dod yn risg llawer mwy,” meddai.
Mae Saudi Arabia wedi bod yn gynghreiriad i’r Unol Daleithiau ers blynyddoedd ac mae sawl canolfan filwrol Americanaidd yn y wlad.
Mae’r canolfannau hynny wedi bod yn darged i ymosodiadau gan Iran wrth i’r rhyfel yno waethygu dros yr wythnosau diwethaf.
Llun: Donald Trump a Mohammed Bin Salman Al Saud, tywysog Saudi Arabia