Tanwen Cray: 'Ansicrwydd bywyd pêl-droedwyr yn gallu bod yn anodd'

Tanwen Cray: 'Ansicrwydd bywyd pêl-droedwyr yn gallu bod yn anodd'

Mae’r cyflwynydd tywydd Tanwen Cray wedi dweud y gall ansicrwydd bywyd pêl-droedwyr fod yn "anodd" wrth i’w phartner Ollie Cooper ymuno â Chlwb Notts County ar fenthyg am y tymor nesaf.

Yr wythnos diwethaf, cafodd Tanwen wybod y byddai Ollie, sy’n chwarae i Glwb Pêl-droed Abertawe, yn symud i Nottingham - tair awr a hanner o’u cartref yn Abertawe.

Diwrnod yn unig gafodd Ollie i baratoi, sy’n golygu y bydd Tanwen yn gofalu am eu merch, Neli, ar ei phen ei hun am gyfnod.

Bydd Ollie yn byw yn Nottingham tra bod Tanwen yn parhau i weithio’n rhan-amser fel cyflwynydd tywydd ar S4C.

Mae hi’n bwriadu teithio i Nottingham ar benwythnosau gyda Neli i’w weld yn chwarae.

Dyma drydydd cyfnod Ollie ar fenthyg a'r ail dymor yn olynol, wedi iddo dreulio cyfnod gydag Wigan Athletic y tymor diwethaf.

Roedd disgwyl iddo aros yn Wigan am flwyddyn, ond roedd yn rhaid i’r cwpl symud yn ôl i Abertawe ar ôl chwe mis.

'Ma lot i feddwl am bwyti'

Wrth siarad ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llantwd, dywedodd Tanwen fod yr ansicrwydd yn gallu bod yn "anodd".

"Gethon ni wybod wythnos diwetha’, dydd Sul, bod e'n gorfod mynd i Nottingham, bod Notts County moyn cael e ar fenthyg," meddai wrth Newyddion S4C.

"A erbyn bore dydd Llun, wyth o'r gloch y bore, o'dd e wedi mynd i Nottingham.

"Ma' rhaid i ti symud, fel arfer, y diwrnod 'ny."

Dywedodd Tanwen nad yw symudiadau pêl-droedwyr bob amser yn cael eu rhagweld ymlaen llaw, er gwaethaf yr hyn y mae rhai cefnogwyr yn ei feddwl.

"Ma' lot o bobl yn meddwl bod nhw'n gweld sï ar Twitter ac yn trio gweithio mas le ma'r pêl-droediwr 'ma'n mynd," meddai.

"Dyw e ddim yn wir o gwbl. Ma' nhw jyst yn cael gwybod y diwrnod 'ny a ma' nhw'n gorfod mynd.

"Fi bydd yn gorfod paco'r tŷ lan, gwneud yn siŵr bod fi'n cael popeth mewn i storage.

"So mae'n anodd. A ma' lot i feddwl am bwyti."

Image
Ollie, Tanwen a Neli
Ollie, Tanwen a'u merch fach Neli

Gan fod y cwpl yn rhieni i ferch fach, dywedodd Tanwen fod hynny’n gwneud y sefyllfa’n fwy heriol, ond bod ganddi gymorth gan ei rhieni ac aelodau eraill o'i theulu.

"Mae e'n anoddach fyth gyda Neli ar hyn o bryd," meddai.

"Ond ma' support amazing 'da fi. Mami a Dadi, ma' Efa y’n ‘whaer i ma', hyd yn oed y’ng nghefnder i Gruffydd.

"Ma' lot o bobl o'n gwmpas i sydd yn anhygoel a 'swn i ffili neud e hebddyn nhw.

"Ma' bywyd bach hyfryd 'da fi, ma' teulu hyfryd 'da fi, fi wrth fy modd gyda Ollie.

"Ond y gwir yw, ma' fe yn anodd, ond fi yn gwybod bod e'n bwysig i Ollie hefyd, bod e'n gweld bod fi a Neli 'na, a bod e'n gorfod ‘whare a bod ni'n deall bod e moyn gweld ni hefyd.

"A dim ond cyfnod byr, byr, byr yw cyfnod ‘whare pêl-droed yma.

"Felly, ni'n cadw’n bositif a gobeithio bod popeth yn iawn tymor ‘ma."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.