Grŵp o Sgowtiaid o'r de yn helpu i lanio balŵn aer poeth ger Bryste

balwn aer poeth bryste

Cafodd grŵp o Sgowtiaid Cymreig oedd ar drip gwersylla ger Bryste eu recriwtio'n annisgwyl i helpu i lanio balŵn aer poeth.

Roedd y grŵp o Beddau newydd gyrraedd y safle yn Tockington pan y gwnaeth y peilot Peter De Herdt alw arnynt i gynorthwyo.

Roedd y balŵn yn un o 50 oedd yn cymryd rhan yn ystod Fiesta Balŵns Rhyngwladol Bryste nos Sadwrn.

Roedd yn yr awyr am tua 50 munud, gan ddechrau o Ystâd Ashton Court, lle mae'r ffiesta flynyddol yn digwydd, i Tockington, lle y gwnaeth y grŵp o 13 o fechgyn ddefnyddio rhaff i helpu i lanio'r balŵn.

Dywedodd Helen Williams, trysorydd y grŵp Sgowt: "I rai o'r bechgyn, dyma ydy eu taith Sgowt gyntaf hefyd, felly dyma ydy'r tro cyntaf iddynt fod i ffwrdd o'u rhieni.

"Mae'n fflat o gwmpas fan hyn, ond lle rydyn ni, mae hi ychydig yn fwy mynyddig. Efallai y byddwch chi’n gweld paragleiders a phethau fel ‘na, ond dydyn ni ddim yn gweld balŵns aer poeth, a dydy’r plant ddim yn tueddu i weld balŵns aer poeth."

Ychwanegodd y byddai'n brofiad y bydd y bechgyn, sydd rhwng 11 ac 14 oed, yn ei gofio am amser hir. 

Dywedodd arweinydd y Sgowtiaid Matthew Bailey ei fod yn "ddechrau arbennig" i'w penwythnos. 

Ychwanegodd y peilot Peter De Herdt: "Wrth i ni ddechrau meddwl am lanio, fe wnaethon ni basio'r grŵp o sgowtiaid ac fe wnaethon ni weld y bechgyn i gyd.

"Rwyf bob amser yn gwahodd pobl i ddod yn agosach at y fasged oherwydd yn aml nid ydynt erioed wedi gweld balŵn aer poeth o mor agos â hynny.

“Yn yr achos yma, gyda’r bechgyn, roedd yn braf iawn eu cael yn agos at y fasged oherwydd eu bod yn frwdfrydig iawn.

"Roedd yn braf iawn rhoi’r cyfle iddynt wneud hyn i ni.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.