Andy Burnham ‘am ddyfnhau datganoli ar draws Cymru’ meddai arweinydd Llafur Cymru

Andy Burnham ‘am ddyfnhau datganoli ar draws Cymru’ meddai arweinydd Llafur Cymru

Mae arweinydd newydd y Blaid Lafur yng Nghymru wedi dweud mai bwriad y Prif Weinidog newydd, Andy Burnham, yw “dyfnhau datganoli ar draws Cymru”.

Dywedodd Ken Skates wrth ymweld â’r Eisteddfod y byddai rhoi rhagor o rym i gymunedau a rhanbarthau yn ei gwneud hi’n anoddach gwrthdroi datganoli.

“Rwy’n credu bod cyfle enfawr yn yr hyn y mae Andy Burnham yn ei alw’n chwyldro datganoli,” meddai wrth Newyddion S4C.

“Mae hynny’n golygu dyfnhau datganoli yng Nghymru, rhoi mwy o rym i gymunedau a rhoi mwy o rym i’r rhanbarthau.

“Ac yn y ffordd honno, mae’n gwneud datganoli’n llawer, llawer anoddach i wrthwynebwyr datganoli ei ddadwneud, ei ddatod a’i wrthdroi.

“Felly rwy’n credu’n gryf mewn cael grym mor agos at gymunedau â phosibl, a dyna’n union y mae Andy Burnham yn ei hyrwyddo.”

Dywedodd nad oedd angen i bobl a oedd o blaid datganoli deimlo bod perygl y byddai hynny’n tanseilio Llywodraeth Cymru.

“Rwy’n credu, os oes unrhyw ansicrwydd ynghylch hynny, ei fod yn gwbl ddi-sail, oherwydd byddai’r broses o ddatganoli grym i gymunedau yn amlwg yn gofyn am ganiatâd Llywodraeth Cymru, gan fod cymaint o bwerau yn nwylo Llywodraeth Cymru,” meddai.

“Felly, boed hynny o ran yr economi, rheoli strydoedd neu addysg, mae’r pwerau hyn i gyd o fewn cylch gwaith Llywodraeth Cymru.

“Felly mae angen cydsyniad Llywodraeth Cymru, a byddai hynny’n golygu bod Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU ac, yn hollbwysig, gyda phobl Cymru, sef y bobl y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwasanaethu.”

O ran yr hyn yr oedd angen ei ddatganoli o San Steffan, dywedodd ei fod yn ffafrio datganoli cyllid ymchwil ac arloesi.

“Byddwn i’n hoffi gweld hynny’n cael ei ddatganoli i ranbarthau Cymru, lle byddai gan y prifysgolion sydd gennym ni, prifysgolion rhagorol, fwy o lais ynghylch sut mae’r arian yn cael ei fuddsoddi a ble mae’n cael ei fuddsoddi,” meddai.

“Rwy’n credu’n gryf mewn datganoli’r pwerau a’r cyfrifoldebau hynny, ac yn hollbwysig, y cyllid hefyd, sy’n gallu gwneud y gwahaniaeth mwyaf cadarnhaol i bobl.

“Ac rwy’n credu, o ran effaith, fod yn rhaid canolbwyntio ar dyfu’r economi.

“Os bydd yr economi’n tyfu, ac os bydd pobl yn fwy cefnog, byddan nhw’n iachach hefyd yn eu tro.”

Pleidleiswyr Plaid Cymru

Dywedodd Ken Skates ei fod yn bwriadu arwain ei blaid i mewn i etholiad nesaf y Senedd a mai’r nod oedd dod yn Brif Weinidog Cymru.

Ond roedd hynny’n dibynnu ar ennill pleidleiswyr yn ôl oddi wrth Blaid Cymru, pleidleiswyr a oedd yn gwrthwynebu Reform, meddai.

“Ar sail yr holl ffactorau a’r holl dystiolaeth yr ydym ni wedi’i chael hyd yma, mae’n ymwneud â sicrhau ein bod yn perswadio’r rhai a bleidleisiodd dros Blaid Cymru y tro hwn i ddod yn ôl at Lafur Cymru, oherwydd ni yw’r blaid fwyaf blaengar,” meddai.

“Ni yw’r blaid a fydd yn sefyll dros Gymru. Ni yw’r blaid a fydd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, nid yn erbyn Llywodraeth y DU, ond byddwn ni’n gwneud hynny drwy ddefnyddio’r holl ddylanwad a’r holl rym sydd gennym ni.

“A thrwy bleidleisio dros Lafur yn y dyfodol, byddwch chi’n atal Reform ac yn sicrhau iechyd a chyfoeth i bawb.”

Ond a oedd hi’n realistig disgwyl i’w blaid adennill grym yn etholiad nesaf y Senedd, o ystyried mai dim ond naw Aelod o’r Senedd oedd ganddi bellach?

“Wel, mae’n bosibl, ac mae camau i’w cymryd ar hyd y ffordd,” meddai.

“Mae’r etholiadau lleol y flwyddyn nesaf, bydd etholiad cyffredinol hefyd, ac yna yn y pen draw bydd etholiad y Senedd.

“Yn sicr, mae’r etholwyr yn llai clos at bleidiau gwleidyddol nag yr oedden nhw yn y gorffennol, a dyna pam yr ydym ni wedi gweld Reform yn dod yn rym gwleidyddol, oherwydd mae pobl yn fwy parod i newid eu pleidlais y dyddiau hyn.

“Ond mae hynny’n rhoi cyfle i ni, oherwydd gallwn ni ddenu’n ôl nifer enfawr o bobl a oedd yn cefnogi Llafur yn y gorffennol ond a fenthycodd eu pleidlais i Blaid Cymru y tro hwn oherwydd eu bod nhw am atal Reform.

“Roedd tua dwy ran o dair o’r pleidleiswyr a newidiodd o Lafur i Blaid Cymru wedi nodi mai atal Reform oedd y prif reswm dros bleidleisio dros Blaid Cymru.

“Felly fe wnaeth y system etholiadol honno ein niweidio mewn gwirionedd, gan fod yr etholiad yn cael ei weld fel ras rhwng dau geffyl. Nawr mae angen i ni adfer ein sefyllfa, mae angen i ni ailadeiladu ac mae angen i ni adnewyddu.

“Ac os byddwn ni’n cyrraedd y pwynt hwnnw, a gobeithio y bydd hynny’n digwydd yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, lle byddwn ni’n dod yn ail neu hyd yn oed yn gyntaf yn yr arolygon, gallwn ni ddangos i bobl mai ni, a’r mudiad, yw’r grym a all atal Reform.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.