Tân mawr ar ystâd ddiwydiannol yng Ngwent

Tân Caerleon

Mae criwiau tân wedi ymateb i “dân mawr” ar ystâd ddiwydiannol yng Ngwent.

Cafodd achubwyr eu galw i Ystâd Fasnachol Star yng Nghaerllion, ger Casnewydd, am 02:42 fore Sadwrn yn dilyn adroddiad o dân.

Roedd 10 injan dân o’r ardal wedi ymateb i’r digwyddiad, gyda chriwiau hefyd yn defnyddio platfform awyrol ac ystod o gyfarpar.

Cafodd y safle ei wagio gyda phob person yn ddiogel.

Mae criwiau yn parhau ar y safle i geisio dod â'r tân dan reolaeth.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn annog pobl i osgoi’r ardal tra bod eu hymdrechion i ddiffodd y tân yn parhau.

Maent hefyd yn cynghori trigolion lleol i gau eu ffenestri a drysau er mwyn diogelu rhag y mwg.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.