Cymru Premier: Treffynnon yn dychwelyd i'r haen uchaf ar ôl 28 o flynyddoedd

Sgorio
Treffynon v Porthmadog

Mae’n ddechrau tymor newydd ac yn ddechrau cyfnod newydd cyffrous i’r Cymru Premier gyda’r gynghrair yn cael ei ehangu i 16 tîm yn dilyn 16 o flynyddoedd o dan y fformat blaenorol o 12 tîm.

Cyn y newid diwethaf yn 2010, roedd Uwch Gynghrair Cymru wedi cael ei chynnal gyda niferoedd rhwng 17-21 o glybiau yn ystod y tymhorau cyntaf ar ôl ffurfio’r gynghrair yn 1992, ond hwn fydd y tymor cyntaf erioed gydag 16 o dimau.

Er y newidiadau sylweddol, mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi penderfynu cadw sawl elfen o’r fformat blaenorol, sy’n cynnwys hollti’r gynghrair, a chynnal gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor.

O’r chwe chlwb sydd wedi esgyn dros yr haf, mae’r tri o’r de yn paratoi am eu tymor cyntaf erioed yn yr uwch gynghrair (Cambrian, Trefelin, Rhydaman), tra bod Llandudno, Airbus UK a Treffynnon yn dychwelyd o Gynghrair y Gogledd.

Hwlffordd v Airbus UK Brychdyn | Dydd Sadwrn – 14:30

Mae Airbus UK yn dychwelyd i’r Cymru Premier am y pedwerydd tro ar ôl gorffen yn ail yng Nghynghrair y Gogledd 2025/26.

Bu dau gyfnod diwethaf Airbus yn yr uwch gynghrair yn rhai siomedig tu hwnt gyda’r clwb yn syrthio’n syth yn ôl i’r ail haen ar ôl gorffen ar waelod y tabl (2019/20 a 2022/23).

Bydd y rheolwr Mark Allen yn anelu am berfformiad gwell gan ei garfan y tro hwn, gan ddechrau gyda thaith i Sir Benfro i wynebu Hwlffordd.

Roedd hi’n ymgyrch gymysglyd i Hwlffordd y tymor diwethaf gyda’r clwb yn gorffen yn 7fed ar ôl llwyddo i orffen yn 3ydd a chyrraedd Ewrop y flwyddyn flaenorol.

Daeth y tymor i ben ar nodyn rhwystredig wrth i’r Adar Gleision golli o 2-0 yn erbyn Pen-y-bont yn rownd derfynol y gemau ail gyfle.

Ond mae hwn yn gyfnod cyffrous i Hwlffordd sydd wedi dechrau system hybrid ar gyfer y tymor newydd gyda chytundebau llawn amser ar gael i’w chwaraewyr ifanc.

Mae Hwlffordd wedi ennill eu pum gêm ddiwethaf yn erbyn bechgyn Brychdyn ond hon fydd yr ornest gyntaf rhwng y clybiau ers Ebrill 2023.

Met Caerdydd v Treffynnon | Dydd Sadwrn – 14:30

Ar ôl gorffen yn drydydd yng Nghynghrair y Gogledd 2025/26 mae Treffynnon am ddychwelyd i’r uwch gynghrair am y tro cyntaf ers 28 o flynyddoedd.

Roedd Treffynnon yn un o’r timau gwreiddiol a chwaraeodd yn nhymor cyntaf Uwch Gynghrair Cymru yn 1992/93 cyn syrthio bum mlynedd yn ddiweddarach.

Daeth Treffynnon yn ôl i fyny ar gyfer tymor 1998/99 gan orffen ar waelod y tabl a disgyn yn ôl i’r ail haen, ac felly dyma fydd eu trydydd cyfnod ymysg yr elît.

Mae John Haseldin wedi bod wrth y llyw yn Nhreffynnon ers 14 mlynedd erbyn hyn, ac fe wnaeth y clwb ennill pencampwriaeth Cynghrair y Gogledd yn 2023/24 ond methu a sicrhau dyrchafiad oherwydd diffyg trwydded domestig.

Felly, wedi hir ymaros, mi fydd Haseldin yn cael arwain ei glwb i’r uwch gynghrair eleni gan ddechrau gyda thrip oddi cartref i’r brif ddinas.

Roedd hi’n dymor anodd i Met Caerdydd wrth i’r myfyrwyr orffen yn 9fed, sef eu safle isaf ers eu dyrchafiad yn 2016.

Hon fydd yr ornest gyntaf erioed rhwng y ddau glwb fydd yn benderfynol am gael dechrau cadarnhaol i’r tymor.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.