Cyhoeddi enillwyr prif wobrau celf Eisteddfod y Garreg Las

Cushla Rose Luxton / Justine Allison

Mae enillwyr prif wobrau celf, crefft a phensaernïaeth Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las wedi’u cyhoeddi ar ddiwrnod agoriadol yr ŵyl.

Bydd yr artist amlgyfrwng Sarah Williams, o ardal Tyddewi, yn derbyn y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain a gwobr o £5,000.

Image
Sarah Williams
Sarah Williams

Mae ei gwaith wedi’i wreiddio ym mytholeg, diwylliant ac amgylchedd Cymru, ac yn cyfuno peintio â thoriadau cymhleth wedi’u peintio â llaw.

Er iddi weithio fel artist ers dros 30 mlynedd, dyma’r tro cyntaf i’w gwaith gael ei arddangos yn Y Lle Celf.

“Roedd cael gwybod mai fi oedd i dderbyn y wobr yn syrpreis ac yn sioc enfawr,” meddai.

“Roedd fel petai tân gwyllt yn fy mhen, ac rwy’n ddiolchgar iawn i’r detholwyr.”

Bydd Justine Allison, o Gastell Newydd Emlyn, yn derbyn y Fedal Aur am Grefft a Dylunio, ynghyd â gwobr o £5,000.

Image
Justine Allison
Justine Allison

Mae ei harddangosfa’n cynnwys tua 30 o lestri porslen taprog o wahanol feintiau, sy’n mynd yn dryloyw pan gânt eu dal i’r golau.

“Fe wnes i grio pan gefais wybod fy mod i’n cael y fedal aur,” meddai.

“Dydw i ddim yn siaradwr Cymraeg, ac mae derbyn y wobr hon yn golygu llawer i mi.”

Bydd yr artist aml-ddisgyblaethol Cushla Rose Luxton, 21 oed, o Ddeiniolen ger Caernarfon, yn derbyn Ysgoloriaeth yr Artist Newydd gwerth £1,500.

Image
Cushla Rose Luxton
Cushla Rose Luxton

Mae Cushla, sy’n fyfyrwraig yng Ngholeg Goldsmith, Prifysgol Llundain, yn gweithio ym maes cerflunio, ffilm a ffotograffiaeth.

Cyflwynodd gyfres o ffilmiau wedi’u hysbrydoli gan Elidir Fawr, yr hen chwareli llechi a’i hanes personol.

“Hoffwn sefydlu cymuned fach o wneuthurwyr ffilmiau yng Ngwynedd yn y dyfodol,” meddai.

Bydd Beca Ellis, o Lantrisant, yn derbyn Ysgoloriaeth Bensaernïaeth Eisteddfod y Garreg Las gwerth £1,500.

Image
Beca Ellis
Beca Ellis

Mae Beca, sy’n gweithio yn Seland Newydd ar hyn o bryd, wedi cael ei chydnabod am dri phrosiect a gwblhaodd wrth astudio pensaernïaeth ym Mhrifysgol Westminster.

“Yr unig dro arall rwyf wedi cystadlu mewn eisteddfod yw'r unawd alaw werin yn Eisteddfod yr Urdd blynyddoedd yn ôl. Rwyf mor falch fy mod wedi trio,” meddai.

Dywedodd y detholwyr, Jamie Yeoman a Martin Davies, bod gwaith Beca'n sefyll allan ymhlith yr ymgeiswyr eraill fel gwaith dynamig iawn sy'n llawn egni.

Bydd Medal Aur Norah Dunphy am Bensaernïaeth yn cael ei chyflwyno i gwmni Pentan o Gaerdydd am Barc Golygfa Hafren yng Nghil-y-coed.

Image
Parc Golygfa Hafren
Parc Golygfa Hafren

Mae’r cartref gofal dementia gwerth £8 miliwn wedi’i ddylunio i osgoi naws sefydliadol, gyda phedwar tŷ unllawr wedi’u trefnu o amgylch cwrt a gerddi.

Dywedodd y pensaer Dafydd Tanner fod y cynllun wedi’i greu er mwyn caniatáu i drigolion “fyw’n dda gyda dementia”.

“Mae derbyn y Fedal Aur gan yr Eisteddfod Genedlaethol yn arwyddocaol i ni fel cwmni,” meddai.

“Rydym yn edrych ymlaen at arddangos yr adeilad unigryw hwn yn Y Lle Celf.”

Bydd Plac Teilyngdod yr Eisteddfod yn cael ei gyflwyno i Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug am ei phrosiect ailddatblygu.

Image
Theatr Clwyd (llun: Mark Carline)
Theatr Clwyd (Llun: Mark Carline)

Mae’r gwaith wedi trawsnewid y ganolfan ddiwylliannol restredig Gradd II, gan greu cyntedd tair stori newydd, llwybrau mwy hygyrch a mannau cymunedol newydd.

Dywedodd prif weithredwr Theatr Clwyd, Liam Evans-Ford: “Mae Theatr Clwyd wedi bod yn llawer mwy na theatr erioed – mae’n gartref creadigol i artistiaid ac yn ganolfan ddiwylliannol hanfodol i gymunedau ledled Gogledd Cymru.

“Byddwn yn dod â Phlac Teilyngdod i’r Wyddgrug gyda balchder.”

Bydd y gwobrau’n cael eu cyflwyno mewn seremoni ym Mhafiliwn yr Eisteddfod yn Llantwd ger Aberteifi brynhawn Sadwrn, cyn dathliad yn Y Lle Celf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.