Tafwyl i gynnig 'tocynnau aur' ar gyfer yr ŵyl yn 2026
Mae Tafwyl wedi cyhoeddi y bydd nifer cyfyngedig o "docynnau aur" ar gyfer yr ŵyl eleni.
Mewn cyhoeddiad ddydd Iau dywedodd Tafwyl bod y tocyn yn costio £20, ac yn cynnwys "mynediad i ardal 18+ o dan do gyda bar preifat, tai bach moethus a golygfa sefyll wych o’r Prif lwyfan."
Dyw'r ŵyl heb gyhoeddi faint o docynnau yn union sydd ar gael.
Ychwanegodd Tafwyl bod tocynnau ar gyfer y brifwyl yn parhau am ddim ar gyfer 2026.
Wrth siarad â Newyddion S4C cyn Tafwyl y llynedd, dywedodd y prif swyddog Bethan Jones-Ollerton ei bod yn "gorfod ystyried codi tâl" ar gyfer mynediad yn y dyfodol.
“Yn anffodus mae rhywbeth fel codi tâl yn rhywbeth ‘da ni’n gorfod ystyried," meddai ar y pryd.
“Ni yn gweithio’n galed iawn i beidio gorfod mynd lawr y llwybr yna, ond ma’ costau pethe wedi codi fel ma’ pawb yn gwybod.
“Ma’ costau byddech chi ddim yn meddwl, ma’ cost llwyfan blwyddyn yma yn costio lot fwy nag oedd o blwyddyn diwethaf.
“Ma’r costau ‘na’n gorfod dod o rywle er mwyn i ni allu cynnal yr ŵyl."
Bydd Tafwyl yn cael ei chynnal yng Nghastell Caerdydd eleni, wedi iddo gael ei chynnal ym Mharc Bute am rai blynyddoedd.
