Tad a merch sy’n ddiffoddwyr tân yn dathlu 64 mlynedd o wasanaeth cyn ymddeoliad
Mae tad a merch sy’n ddiffoddwyr tân yn ne Powys yn dathlu 64 mlynedd o wasanaeth rhyngddyn nhw cyn i’r tad ymddeol eleni.
Mae’r Rheolwr Gwylfa (Watch Manager) Bryan Davies a’i ferch, y Diffoddwr Tân Katrina Davies, wedi gwasanaethu cymuned Talgarth ers 1982 a 2006.
Ar ôl gyrfa o 44 mlynedd, bydd Bryan yn ymddeol o’r gwasanaeth ym mis Hydref eleni.
Dechreuodd ei yrfa fel Diffoddwr Tân ar Alwad yng Ngorsaf Dân Talgarth ar 5 Hydref 1982 - pan oedd Katrina Dvaies yn ddeufis oed yn unig - ac ers hynny mae wedi dod yn ddiffoddwr tân sydd wedi gwasanaethu hiraf erioed yn yr orsaf.
Bryd hynny, roedd y prawf er mwyn ymuno yn cynnwys dringo ysgol bren ar dwr ymarfer yr orsaf, a fyddai’n siglo, rholio pibell ddŵr allan a chludo person wedi’i anafu.
“Roedd yr ysgolion yn siglo i mewn ac allan wrth i chi ddringo, ac roedd y tŵr ymarfer tair coes roedden nhw’n pwyso yn ei erbyn hefyd yn siglo,” meddai.
“Doedd e ddim yn sbort!”
I Katrina Davies roedd hynny’n golygu ei bod hi wedi cael ei hamgylchynu gan y Gwasanaeth Tân ac Achub drwy gydol ei hoes.
Fe wnaeth rhaglen Sam Tân hefyd danio ei diddordeb, meddai.
Tua diwedd 2005, yn 23 oed, penderfynodd Katrina ddilyn ei thad a gwneud cais i ymuno â’i thad, ac fe gwblhaodd ei hyfforddiant cychwynnol ym mis Ionawr 2006.
Ychydig ddyddiau’n unig ar ôl cwblhau ei hyfforddiant, ymatebodd Katrina i’w digwyddiad cyntaf, sef tân simnai yn Aberhonddu.
Dywedodd y ddau eu bod nhw wedi gweld llawer o newidiadau i’r Gwasanaeth Tân ac Achub ac i rôl diffoddwr tân yn ystod eiu gyrfaoedd.
Yn ystod dyddiau cynnar Bryan Davies yn y swydd, dim ond tiwnig nad oedd yn gwrthsefyll tân, helmed, legins plastig melyn yr oedd yn rhaid eu torri i’r maint cywir, ac esgidiau glaw arferol oedd yn rhan o’r wisg dân. Nid oedd menig ar gael.
Mae Bryan yn cofio ei diwnig yn mynd ar dân wrth iddo ddelio â thân mewn atig, a chlustiau diffoddwyr tân yn llosgi wrth iddyn nhw fynd i’r afael â thanau.
“Mae’r cerbydau rydyn ni’n eu defnyddio hefyd wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd,” meddai.
“Pan wnes i ymuno yn 1982, roedd gan yr orsaf injan dân Bedford TK, gyda blwch gêr pedwar cyflymder â llaw, dim llywio pŵer, dim pibellau pwysedd uchel a dim offer ar gyfer gwrthdrawiadau traffig ffordd.
“Diolch byth, mae’r cerbydau modern heddiw yn llawer mwy datblygedig. Maen nhw fel gyrru car mawr.”
Fel ei thad, mae Katrina wedi gweld llawer o newidiadau i’r Gwasanaeth Tân ac Achub ac i rôl diffoddwr tân yn ystod ei gyrfa.
Mae wedi gweld y swydd yn cael ei ddigideiddio, gwelliannau sylweddol i’r wisg a’r offer diogelu personol, a newidiadau i nifer aelodau’r criw dros y blynyddoedd.
“Mae’n swydd sy’n rhoi boddhad mawr, ac rydych chi’n cael llawer ohoni,” meddai.
“Rydych chi’n meithrin sgiliau achub bywyd amhrisiadwy, yn datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol, ac yn dod yn ffigwr sy’n cael ei barchu yn eich cymuned.”
Wrth ymateb i ddigwyddiadau a gweithio ar safle tân, dywedodd Bryan a Katrina eu bod nhw’n rhoi eu perthynas deuluol o’r neilltu ac yn gweithio fel cydweithwyr, gyda rolau a chyfrifoldebau penodol i bob un.