Cyhoeddi lluniau newydd 25 mlynedd ers llofruddiaeth teithiwr yn Awstralia
Mae heddlu yn Awstralia wedi nodi 25 mlynedd ers llofruddiaeth y teithiwr Prydeinig Peter Falconio drwy ryddhau delweddau sydd erioed wedi cael eu gweld o’r blaen o’u hymchwiliad.
Y gobaith medden nhw yw y gallai hynny “arwain yr heddlu at weddillion Peter”.
Cafwyd Bradley John Murdoch yn euog yn 2005 o lofruddio Mr Falconio, 28 oed, ac o ymosod ar ei gariad, Joanne Lees, gyda gwn ar ddarn anghysbell o ffordd yn Nhiriogaeth y Gogledd (Northern Territory), Awstralia, ar 14 Gorffennaf 2001.
Roedd Mr Falconio a Ms Lees, y ddau o Huddersfield yng Ngorllewin Swydd Efrog, yn teithio ar draws y wlad mewn fan wersylla pan wnaeth Murdoch ymosod arnyn nhw.
Cafwyd Murdoch yn euog a chafodd ei ddedfrydu i garchar am oes, heb y posibilrwydd o gael ei ryddhau ar barôl, am o leiaf 28 mlynedd.
Bu farw yn y carchar y llynedd ar ôl cael diagnosis o ganser terfynol y gwddf yn 2019, ond ni wnaeth erioed ddatgelu lleoliad corff Mr Falconio.
I nodi 25 mlynedd ers llofruddiaeth Mr Falconio, mae Heddlu Tiriogaeth y Gogledd wedi rhyddhau delweddau o’r achos nad oedden nhw wedi cael eu gweld o’r blaen.
Mae’r lluniau’n cynnwys delweddau o Ms Lees a gafodd eu tynnu oriau ar ôl yr ymosodiad, y fan Volkswagen Kombi oren roedd y cwpl yn ei gyrru, a llun o Murdoch yn syllu’n syth i mewn i gamera yn ystod ymchwiliad yr heddlu.
Dywedodd comisiynydd Heddlu Tiriogaeth y Gogledd, Martin Dole, y byddai’r heddlu’n archwilio pob posibilrwydd er mwyn dod o hyd i weddillion Mr Falconio.
“Roedd hwn yn ddigwyddiad trawmatig ac erchyll i Ms Lees ac i deulu Peter, sydd bellach wedi bod heb yr atebion maen nhw’n eu haeddu ers cyhyd,” meddai.
“Er bod llofrudd wedi cael ei ddwyn i gyfrif am ei droseddau, nid ydyn nni’n ystyried bod yr ymchwiliad hwn wedi dod i ben nes bod gweddillion Peter yn cael eu canfod a bod ei deulu’n gallu ei gladdu.
“Mae’n destun gofid mawr bod Murdoch wedi marw heb ddatgelu, hyd y gwyddom ni, leoliad gweddillion Peter.
“Mae ei ddistawrwydd llwfr wedi amddifadu ei deulu, ei ffrindiau a’i anwyliaid o’r diweddglo maen nhw’n ei haeddu.”
Mae gwobr o hyd at 500,000 o ddoleri Awstralia, tua £260,000, wedi cael ei chynnig am unrhyw wybodaeth sy’n arwain yn uniongyrchol at ddarganfod gweddillion Mr Falconio.