'Defnyddio dŵr yn ddoeth': Apêl gan Dŵr Cymru

Arbed Dwr

Mae Dŵr Cymru’n gofyn i gwsmeriaid i helpu i leihau’r defnydd o ddŵr, ar ôl cyfnod estynedig o "alw mawr". 

Yn ôl y cwmni, mae'r defnydd o ddŵr 17% yn uwch na’r arfer, gyda’r galw’n aros yn uwch am gyfnod estynedig bob dydd, a dros nos hefyd.

Mae’r galw wedi cyrraedd 900 megalitr y dydd ers 21 Mehefin, mwy na 950 megalitr y dydd ers dydd Llun, 6 Gorffennaf, a may na 1000 megalitr y dydd ers dydd Iau, 9 Gorffennaf, meddai Dŵr Cymru.

Tua 850 megalitr y dydd yw’r galw arferol, yn ôl y cwmni.

Mae’r cwmni’n dweud ei fod yn ymateb i lefel "ddigynsail" o alw.

Dywedodd Prif Swyddog Cwsmeriaid Dŵr Cymru, Kit Wilson: “Mae’r tywydd poeth iawn a’r cyfnod estynedig o dywydd sych yn ystod trydedd don wres y flwyddyn yn golygu bod pobl yn defnyddio mwy o ddŵr o lawer ac am gyfnod hirach trwy gydol y dydd.

“Mae ein timau’n gweithio rownd y cloc, yn trin mwy o ddŵr, yn symud cyflenwadau gan ddefnyddio tanceri ac yn trwsio gollyngiadau. Ond mae angen cymorth cwsmeriaid arnom ni hefyd.

“Byddai newidiadau bach gan lawer o bobl yn gwneud gwahaniaeth mawr. Trwy ddefnyddio dŵr yn ddoeth, gall cwsmeriaid ein helpu ni i gadw’r tapiau’n llifo ac osgoi’r angen am fesurau pellach os bydd y tywydd poeth yn parhau.”

Mae’r cwmni’n annog cwsmeriaid i wneud newidiadau, er enghraifft defnyddio can dyfrio yn hytrach na thaenellwr, gadael i lawntiau ymadfer yn naturiol, ailddefnyddio dŵr o byllau padlo ar yr ardd, defnyddio jwg i oeri dŵr yn yr oergell yn hytrach na rhedeg y tap nes bod y dŵr yn ddigon oer, a pheidio â chynnau’r peiriannau golchi llestri a dillad nes bod llwyth llawn.

Ychwanegodd Dŵr Cymru: "Gall y camau bach yma arbed miliynau o litrau o ddŵr, a helpu i ddiogelu cyflenwadau ar gyfer cymunedau a’r amgylchedd." 

Mae disgwyl i'r tywydd poeth barhau am gryn amser eto, heb unrhyw arwydd o law mawr yn y dyddiau nesaf, yn ôl rhagolygon y Swyddfa Dywydd.       

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.