Mannau gwyrdd yng Nghymru yn gosod record
Mae cynnydd yn nifer y mannau gwyrdd yng Nghymru sydd wedi derbyn Gwobr y Faner Werdd yn ôl ffigyrau newydd.
Mae 330 o barciau a mannau gwyrdd yng Nghymru wedi cael eu cydnabod yn y rhestr ddiweddaraf, 15 yn fwy na’r flwyddyn flaenorol
Dyma’r nifer mwyaf Gymru yn hanes 30 mlynedd y gwobrau.
Mae hyn yn cynnwys 93 o safleoedd yng Nghymru sydd wedi cyflawni statws llawn Gwobr y Faner Werdd.
Yn ogystal, roedd 237 o enillwyr Gwobr Gymunedol y Faner Werdd a derbyniodd 14 o safleoedd Achrediad Safle Treftadaeth Werdd, gyda chymorth Cadw .
Dywedodd Cadwch Gymru’n Daclus fod gan Gymru “y record am fwy o Wobrau Cymunedol y Faner Werdd nag unrhyw wlad arall sy’n darparu cynllun y Faner Werdd yn y byd”.
Dywedodd CGD fod y cynllun “yn gwobrwyo’r parciau a’r mannau gwyrdd gorau, fel bod ymwelwyr yn gwybod ble bynnag mae Baner Werdd, eu bod yn ymweld â lle rhagorol gyda’r safonau uchaf”.
Mae’r mannau sydd wedi derbyn statws llawn Gwobr y Faner Werdd yn cynnwys Mynwent yr Wyddgrug, Parc Coetir Cymunedol Dyfrdwy yn Sir y Fflint, a Gerddi Linda Vista yn Sir Fynwy.
Mae’r 330 o safleoedd ledled Cymru yn cynnwys parciau, prifysgolion, coetiroedd cymunedol, mynwentydd ac ystadau tai.
Yn ôl CGD mae'n nhw “i gyd yn cael eu gwobrwyo am fod yn ddiogel, am gael eu cynnal a’u cadw’n dda ac yn lan, â rheolaeth amgylcheddol ragorol, ac am fod yn lle croesawgar”.
Am y drydedd flwyddyn yn olynol, mae gan Gymru mwy o Wobrau Cymunedol y Faner Werdd nag unrhyw wlad sy’n darparu’r cynllun.
Mae'r rhain yn cynnwys Coetiroedd Bryn Sirhywi ym Mlaenau Gwent, Glas Meadows yn Sir Ddinbych, Gardd Gymunedol Fairyland yng Nghastell-nedd Port Talbot a chwe safle newydd yn Sir Gaerfyrddin yn cynnwys Cegin Hedyn, Gardd Gymunedol Alltwalis a Pharc a Choetir Tycroes.
Cefnogi iechyd a lles
Dywedodd Llyr Gruffydd, yr Aelod Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: "Mae'r flwyddyn hon sy'n torri pob record i Wobrau y Faner Werdd yn dangos ymrwymiad Cymru i'n parciau, ein gerddi cymunedol a'n coetiroedd, a'r gwahaniaeth y maen nhw'n ei wneud i fywydau pobl.
"Mae ein mannau gwyrdd yn ein helpu ni i gadw’n heini, gwella ein hiechyd meddwl, agosáu at natur ac yn fannau i ni dreulio amser gyda’n hanwyliaid."
Yng Nghymru, mae’r cynllun gwobrau yn cael ei redeg gan Cadwch Gymru’n Daclus gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Owen Derbyshire, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus: “Mae mannau gwyrdd yn chwarae rhan hanfodol yn cefnogi iechyd a lles cymunedau ledled Cymru felly mae'n arbennig o gyffrous gweld bod Cymru wedi torri record ar gyfer nifer yr enillwyr am y drydedd flwyddyn yn olynol gyda 237 o safleoedd.
“Ni fyddai’r gwobrau hyn yn bosibl heb waith caled ac ymroddiad y rhai sy’n gofalu am y lleoedd arbennig hyn, ac hoffem ddiolch i’r holl staff a gwirfoddolwyr ledled Cymru sy’n chwarae rhan yn hynny.”
Llun: Parc Coetir Cymunedol Dyfrdwy