Syr Karl Jenkins yn rhoi ei gasgliad cerddorol i Lyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae'r cyfansoddwr Syr Karl Jenkins wedi rhoi ei gasgliad cerddorol i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae'r casgliad yn cynnwys sgoriau cerddorol gyda nodiadau arnynt, ffotograffau o'i yrfa, deunydd hyrwyddo a rhaglenni cyngherddau.
Yn ôl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae'n "anrhydedd enfawr croesawu casgliad cerddorol Syr Karl Jenkins".
Dywedodd y cyfansoddwr ei fod am i'r casgliad fynd i'r Llyfrgell Genedlaethol gan ei fod, fel Cymro, yn ei hystyried yn "gartref priodol" i'w waith.
Yn enedigol o Ben-clawdd ger Abertawe, mae gwaith Syr Karl Jenkins yn adnabyddus ledled y byd.
Mae ei recordiadau wedi ennill 17 o wobrau disg aur a phlatinwm.
Ymhlith ei weithiau mwyaf adnabyddus mae Adiemus (1995) a The Armed Man: A Mass for Peace (2000).
Cyrhaeddodd Adiemus frig y siartiau cerddoriaeth glasurol, tra bod The Armed Man wedi cael ei berfformio dros 3,000 o weithiau ledled y byd.
Fe dderbyniodd yr OBE yn 2005 a'r CBE yn 2010, cyn cael ei urddo'n farchog yn 2015.
'Rhodd hael'
Dywedodd Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru: "Mae gwaith Syr Karl yn adnabyddus i gynulleidfaoedd ledled y byd ac ef yw un o’r cyfansoddwyr byw y mae eu gwaith yn cael ei berfformio amlaf ac sy’n cael eu dathlu fwyaf.
"Mae’r rhodd hael yma yn sicrhau bod hanes ei yrfa greadigol ryfeddol yn dod yn rhan o gof cenedlaethol Cymru.
"O sgoriau gyda’i nodiadau arnynt a rhaglenni cyngherddau i ffotograffau a deunydd hyrwyddo, mae’r casgliad yn cynnig cipolwg unigryw ar ddatblygiad darnau o waith sydd wedi cyffwrdd â miliynau o bobl ledled y byd.
"Edrychwn ymlaen at sicrhau bod y deunyddiau hyn ar gael i ymchwilwyr, cerddorion a’r cyhoedd ehangach am genedlaethau i ddod.”
Mae Syr Karl Jenkins wedi dweud ei fod yn teimlo mai'r Llyfrgell Genedlaethol oedd y lle priodol i gadw ei gasgliad cerddorol.
"Cymro ydw i, mae fy ngwreiddiau yma, ac felly roedd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ymddangos fel y cartref priodol i’m casgliad," meddai.
"Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn chwarae rhan mor bwysig yn hanes Cymru, roedd yn teimlo fel y lle iawn ar gyfer fy ngwaith, ymhlith gweithiau cyfansoddwyr eraill o Gymru fel Alun Hoddinott a Williams Mathias."
Bydd y casgliad ar gael i'r cyhoedd ei weld yn gynnar yn 2027.
