'Symbol o dreftadaeth': Plannu egin o goeden y Sycamore Gap yn hen gartref Hedd Wyn
Fe fydd egin blanhigyn coeden y Sycamore Gap yn cael ei phlannu yn Yr Ysgwrn ddydd Mercher, hen gartref y bardd Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd.
Mae'n rhan o brosiect a fydd yn gweld eginblanhigion y goeden yn cael eu plannu yn y 15 parc cenedlaethol ledled y Deyrnas Unedig.
Cafodd y goeden ei thorri'n bwrpasol dros nos ym mis Medi 2023.
Ym mis Mai 2025, cafodd Daniel Graham ac Adam Carruthers eu canfod yn euog o dorri'r goeden enwog a'u dedfrydu i bedair blynedd yn y carchar.
Ddydd Mercher fe fydd Parc Cenedlaethol Eryri yn plannu'r goeden ar lwybr hygyrch ger Yr Ysgwrn.
Dywedodd Pennaeth Cyfathrebu'r Parc, Ioan Gwilym fod yr awdurdod wedi dewis Yr Ysgwrn fel lleoliad plannu'r goeden gan ei fod yn "safle o bwysigrwydd diwylliannol" yng Nghymru.
“‘Dan ni’n falch iawn oherwydd bod o’n rhan o brosiect cenedlaethol mewn ffordd, a bod y Sycamore Gap yn goeden mor eiconig," meddai wrth Newyddion S4C.
“Ma’r saplings di cael eu gyrru ar draws y 15 Parc ym Mhrydain ac fe fydd yn cael ei phlannu yma yn Eryri ddydd Mercher fel rhan o ddathliadau 75 mlynedd yr awdurdod.
“'Dan ni ‘di dewis Yr Ysgwrn oherwydd ei fod yn safle o bwysigrwydd diwylliannol a chenedlaethol yng Nghymru.
“Mae’n symbol o hunaniaeth, iaith a treftadaeth y wlad ac mae’r Ysgwrn hefyd yn cynrychioli cof, colled ac adnewyddiad.
“Felly mae o’n cyd-fynd efo stori’r goeden hefyd mewn ffordd."
Mae'r prosiect hwn yn un ar y cyd rhwng National Parks UK a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Cafodd yr eginblanhigion - 49 ohonynt i gyd sydd yn cynrychioli uchder y goeden mewn troedfeddi pan gafodd ei thorri - ei thyfu yn defnyddio hadau a deunydd o'r goeden.
Mae plannu'r eginblanhigyn yn Eryri yn bwysig iawn i'r Parc Cenedlaethol, gan ei fod yn cyd-fynd â phenblwydd 75 oed yr awdurdod.
“Mae dathlu 75 mlynedd yn garreg filltir bwysig iawn i ni fel awdurdod," meddai Ioan Gwilym.
“Ma’ ‘na lot o betha’n digwydd nes ‘mlaen yn y flwyddyn. Ma’ ‘na bedwar parc yn y DU yn cael eu penblwydd eleni.
“Felly fydd ‘na lot o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ym mis Gorffennaf a mis Hydref eleni."
