Sŵ'n achub bywyd Jodie'r neidr gyda thriniaeth ganser arloesol

Neidr yn cael trniaeth am ganser

Mae milfeddygon yn Sŵ Caer wedi torri tir newydd drwy achub bywyd neidr sâl gyda thriniaeth ganser sydd fel arfer yn cael ei ddefnyddio ar bobl.

Fe gafodd y peithon 15 troedfedd o hyd - sydd wedi ei henwi ar ôl yr actores Jodie Foster - driniaeth electrocemotherapi i fynd i’r afael â thiwmor ar asgwrn ei gên.

Mae swyddogion y sŵ’n credu mai dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd.

Fe gyrhaeddodd yr ymlusgiad, sy’n 23 oed ac yn pwyso 40kg, y sŵ yng ngogledd-orllewin Lloegr ddau ddegawd yn ôl.

Yn 2024 cafodd lawdriniaeth i dynnu ffibrosarcoma, math o diwmor maleisus, oddi ar ei gên ar ôl i staff y sŵ sylwi ei bod yn bwyta llai.

Ond fe ailymddangosodd y tyfiant y flwyddyn ganlynol - gan ysgogi swyddogion i feddwl am ffordd arall o achub ei bywyd.

“Roedden ni’n wynebu’r posibilrwydd o’i cholli hi gan fod y tiwmor yn ei gwneud hi’n fwyfwy anodd iddi fwyta, felly fe weithion ni gydag arbenigwyr canser i weld a fyddwn ni’n addasu triniaeth electrocemotherapi ar gyfer neidr,” meddai Dr Ian Ashpole, swyddog milfeddygaeth yn y sŵ.

“Hyd y gwyddwn ni, dyma’r tro cyntaf i’r driniaeth gael ei defnyddio ar neidr.”

Blancedi ac anesthetig

Oherwydd maint y peithon, roedd rhaid i staff yng nghanolfan milfeddygaeth y sŵ roi dau fwrdd triniaeth at ei gilydd wrth iddyn nhw fynd ati i dynnu’r tiwmor mewn llawdriniaeth 90 munud o hyd.

Image
Peithon yn cael triniaeth

Â’r neidr dan anesthetig ac yn cael ei chynhesu gan flancedi ac aer poeth, cafodd y tiwmor a rhan o asgwrn ei gên eu tynnu cyn defnyddio electrocemotherapi i dargedu unrhyw gelloedd canser oedd yn weddill.

Mae’r driniaeth yn defnyddio’r cyffur canser bleomycin gyda chyfres o bylsiau trydanol sy’n helpu’r cyffur i gyrraedd y fan briodol yn fwy effeithiol.

Ac mae’n ymddangos bod y driniaeth arloesol wedi llwyddo - yn dilyn eu harchwiliad olaf yr wythnos hon, dywedodd y milfeddygon bod dim arwydd bod canser y neidr wedi dychwelyd.

Ar ben hynny, mae chwant bwyd Jodie wedi dychwelyd - a’r sŵ wedi cyhoeddi fideo ohoni’n bwyta cyw iâr cyfan fel arwydd o’i gwellhad.

Image
Neidr

“Mae ei gweld hi’n fywiog a mentrus fel o’r blaen wedi rhoi boddhad mawr i mi,” meddai Dr Ashpole.

“Ychydig fisoedd yn ôl, doedden ni wir ddim yn gwybod a fyddai hi’n byw. 

“Nawr mae hi’n bwyta’n arferol, yn crwydro’i chynefin ac yn ymddwyn yn union fel roedden ni wedi ei obeithio.

“Mae hefyd yn dangos cymaint mae milfeddygaeth yn datblygu. Drwy ddod â milfeddygon sŵ ac arbenigwyr canser at ei gilydd, ‘dan ni wedi gallu defnyddio triniaeth gafodd ei ddatblygu ar gyfer pobl i achub anifail mewn ffordd sydd erioed wedi digwydd o’r blaen.”

Lluniau: Sŵ Caer drwy PA

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.