Sw ar gau wrth i ymchwiliad i farwolaeth dyn aeth i gorlan teigrod barhau

Teigr (Paul Harrop via Wikimedia Commons), arwydd Yorkshire Wildlife Park (Annabel Lee-Ellis/PA Wire)

Mae sw yn Swydd Efrog wedi dweud y bydd yn aros ar gau drwy gydol dydd Llun wrth i ymchwiliadau barhau i farwolaeth dyn yr ymosododd teigr arno ddydd Sadwrn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Barc Bywyd Gwyllt yn Doncaster ychydig ar ôl 13:30 ddydd Sadwrn wedi i'r dyn fynd i mewn i’r gorlan at y teigr.

Bu farw yn y fan a’r lle, meddai Heddlu De Swydd Efrog.

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Sul, dywedodd y parc bywyd gwyllt fod “llawer iawn o bobl” wedi cysylltu â nhw ynghylch Altai, y teigr Amur oedd yn rhan o’r digwyddiad. Cadarnhaodd y sw ei fod yn “ddiogel ac yn iach” ac na fydd yn cael ei roi i gysgu.

Ychwanegodd fod y digwyddiad wedi cael “effaith ddofn” ar aelodau o staff y parc a’u bod wedi derbyn cymorth arbenigol.

Cafodd y parc ei wagio yn fuan ar ôl y digwyddiad ac fe arhosodd ar gau ddydd Sul.

Mae fideos sy’n cael eu rhannu ar-lein yn dangos Altai yn taro dyn â’i bawennau yng nghorlan y teigrod yn y parc, ger Doncaster.

Mewn fideo arall, mae’n ymddangos bod llais y dyn, sydd heb ei enwi hyd yma, i’w glywed yn gofyn i bobl dynnu llun ohono gyda’r teigr cyn y digwyddiad.

Dywedodd Heddlu De Swydd Efrog eu bod yn ymwybodol o’r fideos o’r ymosodiad ar-lein, a gofynnodd i bobl beidio â’u rhannu.

'Dim perygl ehangach'

Agorodd Parc Bywyd Gwyllt Swydd Efrog yn 2009, ac agorodd atyniad Land of the Tigers yn 2011.

Mae’r atyniad yn warchodfa ddwy erw a gafodd ei hadeiladu’n bwrpasol ar gyfer teigrod Amur. Mae’r isrywogaeth mewn perygl, gyda thua 500 ar ôl yn y gwyllt.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu ddydd Sadwrn: “Am 13:35, cawsom adroddiadau bod dyn wedi mynd i mewn i gae teigrod ym Mharc Bywyd Gwyllt Swydd Efrog.

“Yna, ymosododd y teigr ar y dyn, gan achosi anafiadau difrifol.

“Fe ddaeth y gwasanaethau brys i’r safle ac yn anffodus, er gwaethaf ymdrechion gorau’r staff meddygol, cafodd y dyn ei gyhoeddi’n farw yn y fan a’r lle.

“Mae teulu’r dyn wedi cael gwybod ac yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol. Mae ein meddyliau gyda nhw ar yr adeg anodd hon.

“O ran y sïon am gyflwr y teigr, ni chafodd yr anifail ei anafu ac fe arhosodd yn y gorlan ar ôl y digwyddiad. Nid oes perygl ehangach i’r cyhoedd.”

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Swydd Efrog fod dau ambiwlans, Ambiwlans Awyr Swydd Efrog a meddyg wedi mynd i’r safle.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.