Super Furry Animals yn rhyddhau un o hen ganeuon cynnar y band
Mae'r Super Furry Animals wedi rhyddhau un o hen ganeuon cynnar y band, ar drothwy blwyddyn brysur i'r grŵp o Gaerdydd sydd wedi ailffurfio ar ôl bron i ddegawd.
Am hanner nos fore dydd Iau cafodd y gân 'Pocket Sam' ei rhyddhau ar gyfer ei ffrydio - cân yn ôl neges gan yr aelodau sydd yn cynnwys llais aelod cynnar o'r Furries, sef yr actor Rhys Ifans.
Cafodd y gân ei recordio "ar dâp yn Grassroots Studio yng Nghaerdydd wrth i ni ddechrau ffurfio yn y ddinas yn 1993" meddai'r aelodau mewn datganiad ar gyfryngau cymdeithasol.
Ddiwedd mis Medi yn llynedd, daeth cadarnhad fod SFA am berfformio am y tro cyntaf ers 2016, a hynny ar daith mewn sawl lleoliad yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon yn 2026.
Enw'r daith yw Supacabra, gyda'r band yn perfformio yn Nulyn, Glasgow, Llandudno, Caerdydd, Manceinion, Llundain, ac mewn gwyliau ar hyd a lled y wlad.
Mae disgwyl i'r band gyhoeddi rhagor o fanylion am ryddhau y gân 'Pocket Sam' ddydd Iau.
