Storm Boelo: Problemau trydan a hyrddiadau o hyd at 84mya i Gymru
Mae rhybuddion llifogydd yn parhau mewn grym yn ne Cymru fore Sul ar ôl i Storm Boelo ddod â glaw trwm a hyrddiadau o wynt o hyd at 84mya i Gymru.
Mae disgwyl i ardaloedd ar draws Cymru barhau i deimlo effaith y storm ddydd Sul, gyda gwyntoedd cryfion yn parhau yn ystod y dydd.
Cafodd hyrddiadau o 84 mya eu cofnodi yng Nghapel Curig yn Eryri dros nos.
Fore Sul, roedd cannoedd o gartrefi ar hyd a lled Cymru heb drydan, y mwyafrif yn y de, gyda thoriadau yn effeithio ar fwy na 500 o aelwydydd yn Rhaeadr, Powys.
Yr amcangyfrif ydy fod 86,000 o gartrefi heb drydan ar hyd a lled y Deyrnas Unedig fore Sul.
Mae'n debyg mai ardaloedd yn y gogledd fydd yn cael eu taro waethaf yng Nghymru ddydd Sul wrth i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd melyn am wynt i rannau o Gonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam.
Daw'r rhybudd diweddaraf wedi cyfres o rybuddion melyn yng Nghymru'r wythnos hon, ac mae rhybudd oren am wynt yn parhau i fod mewn grym mewn rhannau o ogledd Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod pum rhybudd coch ar gyfer llifogydd yn y de, gyda 24 o rybuddion ‘paratowch am lifogydd’ ar draws Cymru hefyd.
Mae’r rhybuddion coch am lifogydd ger Afon Elái yn Llanbedr-y-fro, Bro Morgannwg; Afon Elái yn Sain Ffagan, Bro Morgannwg; Afon Elái wrth Bont Elai, Morgannwg; Afon Elái yn Nhonysguboriau, Rhondda Cynon Taf.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud fod lefel y dŵr yn yr afonydd yn yr ardaloedd hyn yn sefydlogi, ond bod risg o lifogydd yn parhau am y tro.
Dywedodd Heddlu De Cymru fore Sul eu bod wedi cael eu galw i ddau achos o lifogydd ar hyd Afon Elái, gan arwain at gau Pont Elái ar Heol Orllewinol y Bontfaen yng Nghaerdydd, yn ogystal â Heol Llanfihangel i Gwrt Bryn y Castell i’r ddau gyfeiriad.
Yn y cyfamser, mae Heddlu Gogledd Cymru wedi rhybuddio gyrwyr i fod yn ymwybodol bod "cryn dipyn o falurion a choed" wedi disgyn ar yr A470 rhwng cylchfan Black Cat a Llanrwst yn Sir Conwy.
Mae hyd at 55.2mm o law wedi disgyn ym Mharc Bute yng Nghaerdydd yn ystod y 24 awr hyd at fore Sul, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Cafodd 54.6mm o law hefyd ei gofnodi yng Nghapel Curig yng Nghonwy yn ystod yr un cyfnod.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn dweud eu bod wedi canslo nifer o deithiau tren, gan gynnwys rhwng Abertawe ac Amwythig.
Roedd Stena Line, sy’n gweithredu gwasanaeth fferi rhwng Caergybi a Dulyn, wedi canslo rhai teithiau ddydd Sadwrn, ond mae’n ymddangos bod eu gwasanaethau bellach yn ôl i’r drefn arferol.
Rhybudd melyn i'r gogledd
Er bod disgwyl i’r tywydd wella’n raddol ddydd Sul, bydd y rhybudd melyn am wyntoedd cryfion yn parhau mewn grym mewn rhannau o ogledd Cymru tan 21.00 heno, yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Mae’r rhybudd yn golygu bod perygl o anafiadau oherwydd malurion sy’n cael eu chwythu gan y gwynt, yn ogystal â difrod i adeiladau a choed.
Mae’n bosib y bydd teils yn cael eu chwythu oddi ar doeau, a changhennau mawr a choed yn disgyn.
Gallai hynny effeithio ar deithiau ar y ffyrdd, y rheilffyrdd, mewn awyrennau ac ar longau fferïau, gyda theithiau hirach a chanslo gwasanaethau’n bosib.
Mae perygl hefyd y bydd toriadau pŵer mewn rhai ardaloedd, gan effeithio o bosib ar wasanaethau eraill, gan gynnwys signal ffonau symudol.
Mae’r Swyddfa Dywydd hefyd yn rhybuddio am berygl ar yr arfordir, lle gallai tonnau mawr a malurion gael eu taflu at y lan, gan beri risg o anafiadau difrifol a hyd yn oed farwolaeth.