Starmer i gyhoeddi cymorth ar gyfer olew gwresogi tai

Biliau / Costau byw

Mae disgwyl i Lywodraeth y DU gyhoeddi mesurau er mwyn helpu pobl sydd wedi gweld cynnydd cyflym mewn prisiau olew i wresogi eu tai.

Ers y rhyfel rhwng Iran ac Israel ac America mae prisiau olew wedi codi 80%. Erbyn hyn mae casgen o olew yn costio dros $100 sydd yn £75. Cyn y rhyfel byddai wedi costio $71.

Mae'r Prif Weinidog, Keir Starmer hefyd wedi dweud y gallai cyflenwyr wynebu dirwyon neu gosbau ariannol os ydynt yn cymryd mantais o gwsmeriaid yn sgil yr anghydfod yn y Dwyrain Canol.

Y gred yw y bydd y pecyn cymorth yn costio £50m a bydd yn datgelu’r manylion mewn cynhadledd newyddion ddydd Llun.

Dydy prisiau olew, yn wahanol i drydan a nwy, ddim wedi cael eu capio. Mae hyn yn golygu bod y rhai sydd yn ei ddefnyddio i wresogi eu tai wedi dechrau gweld effaith y rhyfel ar eu costau.

Mae'n broblem amlwg yng ngogledd Iwerddon lle mae tua dau o bob tri cartref yn defnyddio olew i wresogi'r tŷ. 

Mewn cyfweliad gyda'r Times dros y penwythnos fe ddywedodd y Canghellor, Rachel Reeves y byddai yna gefnogaeth i bobl fwy tlawd.

Dywedodd, "Rydyn ni yn rhoi'r gefnogaeth fwyaf i bobl sydd wir ei angen".

Mae Ysgrifennydd Ynni Llywodraeth y DU, Ed Miliband wedi dweud wrth y BBC "os yw hi'n angenrheidiol i ymyrryd y byddwn ni yn gwneud" gyda phrisiau ynni. Ond ychwanegodd y byddai maint yr ymyrraeth yn dibynnu ar faint mae'r gwrthdaro yn effeithio ar bobl. 

 

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.