Starmer yn cynllunio cyfraith ar fabwysiadu rheolau marchnad sengl yr UE
Mae Keir Starmer yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth a fyddai’n caniatáu ymrwymo’r DU i reolau marchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd heb bleidlais yn San Steffan.
Yn ôl adroddiad yn y Guardian, bydd y bil yn cynnwys pwerau a fyddai’n golygu y gallai unrhyw newidiadau pellach gan yr UE gael eu pasio heb bleidlais swyddogol gan ASau unwaith y bydd cytundeb wedi’i sicrhau gyda’r bloc.
Mae disgwyl i’r ddeddfwriaeth gael ei chyhoeddi yn Araith y Brenin, sy’n gosod agenda sesiwn nesaf y Senedd, ar 13 Mai.
Mae Syr Keir Starmer wedi bod yn ceisio “ailosod” perthynas y DU gyda’r UE ers iddo ddod i rym ym mis Gorffennaf 2024.
Yn gynharach y mis hwn, mynnodd y Prif Weinidog fod ymrwymiadau maniffesto Llafur yn aros yr un fath. Roedd y maniffesto yn dweud na fyddai Prydain yn ail-ymuno â’r farchnad sengl na chwaith ail-gyflwyno’r ‘rhyddid i symud’ (right to free movement).
Mae’r gwrthbleidiau eisoes wedi beirniadu'r cynlluniau newydd.
Dywedodd Andrew Griffith, ysgrifennydd busnes cysgodol y Ceidwadwyr: “Byddai Senedd y DU yn gwylio o’r cyrion tra bo Brwsel yn gosod y telerau, a dyna’n union wnaeth y wlad ei wrthod.
“Mae Starmer wedi i ruthro i Frwsel i dynnu sylw oddi ar fethiannau economaidd ei blaid ei hun.
“Mae Llafur yn dal i ymladd y refferendwm oherwydd yn y bôn dydyn nhw ddim yn gallu derbyn penderfyniad democrataidd a wnaeth pobl Prydain.
“Dylen ni fod yn manteisio ar gyfleoedd Brexit, ond mae gwendid Starmer ar lwyfan y byd wedi gwneud hynny bron yn amhosib.”
Dywedodd AS y Democratiaid Rhyddfrydol, Munira Wilson, wrth raglen Westminster Hour y BBC: “Mae angen perthynas agosach arnon ni ag Ewrop, ond mae angen democratiaeth seneddol arnon ni hefyd.
“Ac mae cau’r Senedd allan o’r broses a pheidio â chynnal pleidlais, yn fy marn i, yn hurt, yn anghywir ac yn annemocrataidd.”