Slefrod m么r arbennig yn ymddangos o ganlyniad i'r tywydd poeth
08/07/2022Mae math arbennig o slefrod m么r wedi bod yn ymddangos ar arfordir Cymru wrth i'r tymheredd godi.
Gyda marciau oren a brown, gwelwyd llawer ar y traeth yn Nhrefdraeth, Sir Benfro, dros y penwythnos diwethaf.
Mae鈥檙 slefren f么r ddanhadlen - y Chrysaora hysoscella - yn cael ei enw o'r marciau brown sy'n edrych fel cwmpawd.
Yr enw Saesneg yw 'compass jellyfish'.
Maen nhw'n gallu roi pigiad cas felly mae'n well eu hedmygu o bell.
Maent yn gyffredin yn nyfroedd Cymru rhwng mis Mai a Hydref pan fydd tymheredd y m么r yn cyrraedd dros 10掳C.
Erbyn mis Gorffennaf mae tymheredd y m么r yn Sir Benfro yn cyrraedd 14掳C a bydd ar ei uchaf ar ychydig dros 15掳C ym mis Medi.
Mae'r slefrod m么r yn bwydo ar bysgod bach, crancod a hyd yn oed slefrod m么r eraill.
Mae eu pigiad ychydig yn gryfach na llawer o'r rhywogaethau mwy cyffredin o slefrod m么r.
Unwaith y byddan nhw wedi pigo rhywbeth, maen nhw'n aml yn gadael y tentacl ar 么l ac yn gallu parhau i bigo hyd yn oed pan nad ydyn nhw wedi'u cysylltu 芒'u corff.